hoffir hi gan blant bychain. Fe gyfansoddodd nifer o donau cyfaddas i'w canu mewn cyfarfodydd dirwestol, a bu ganddo gör undebol pwysig dan ei arweiniad oddeutu'r flwyddyn 1850. Dros ei ieuenctid a chanol oed yr oedd ei lais ef ei hun yn groew a seinber a threiddiol. Ei dôn Bryn Calfaria ar yr emyn, Gwaed y Groes, sydd wedi rhoi arbenigrwydd arno ymhlith cyfansoddwyr tonau. Y mae rhyw ffurf ar fywyd crefyddol. Cymru yn cael mynegiant yn y dôn yma fel na cheir feallai mor llwyr yn yr un dôn arall: gwna'r dôn yma ei hapêl at y profiad cyffredin. Yr oedd canu'r emyn ar y dôn yma gan y Parch. Hugh Roberts y cenhadwr, mewn cyfarfod cenhadol ym Moriah oddeutu 35 mlynedd yn ol, yn gorchfygu teimlad y lliaws yn y gynulleidfa fawr. Dywed Mr. Hugh Roberts. mewn llythyr: "Pe buasai William Owen yn gwybod y dylanwad y mae ei dôn wedi ei gael drwy gyfryngiad yr Ysbryd yn denu ac yn swyno cynhulliadau enfawr o baganiaid i wrando cenadwri y Bywyd ym Mryniau Cassia a Jaintia, ychwanegasai at ei nefol ddedwyddwch. Cyhoeddwyd y Llyfr Tonau Cynulleidfaol Cassiaeg cyntaf ugain mlynedd yn ol [o 1913]; ac enw'r hen dôn yn y llyfr yw Lum Kalbari." Mr. John Griffiths, Bee Hive, Bangor, a ddywed: "Oddeutu 40 mlynedd. yn ol [o 1913] yr oedd tri neu bedwar o ymfudwyr yn teithio'r anialwch yn Awstralia a'u gwynebau ar y meusydd aur. Digwyddai fod un ohonynt yn fachgen o sir Fon. Un noswaith cyrhaeddasant dŷ log mwy na'r cyffredin. Curasant y drws amryw weithiau. Curasant unwaith eto, pryd y rhoes benyw ei phen allan o ffenestr y llofft, gan ddweyd nad oedd derbyniad iddynt y noswaith honno, fod ei gwr oddicartref. Yr oedd y trueiniaid ar hyn ar droi ymaith yn siomedig. 'Wait a minute, boys,' meddai'r Cymro, a thrawodd yr hen dôn, Bryn Calfaria; a chyn ei fod wedi gorffen y pennill yr oedd y drws yn agored led y pen, a'r croesaw mwyaf yn cael ei estyn i'r trueiniaid." Nid yw hon ond enghraifft deg o ddylanwad cyffredinol y dón ar galon y Cymro. I bobl o'r tuallan bri mawr Caeathro ydyw ei mynwent. Y mae bri William Owen Prysgol yn ddiau yn ymestyn ymhellach; a phery Caeathro o hyd i roi disgleirdeb ar enw Dafydd Morris. Drwy'r cwbl, o fewn Arfon ac am gryn bellter o'r tuallan, y fynwent a rydd fri ar y lle. Macpelah y Methodistiaid ydyw o fewn rhyw gylch, a mangre gorweddfa
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/173
Gwedd