Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enwogion y ffydd o fewn cyfnod go ddiweddar. Y gyntaf a hebryngwyd yma oedd priod William Owen. John Jones Mochdre, fel y gelwir ef o hyd, gan nodi'r man y dechreuodd gyntaf ddihuno'r wlad â'i utgorn arian a orwedd yma; a'i fab John Maurice Jones, cannwyll ei lygad,—llwyd ei wedd, gloew ei olygon, ac un y bu ei goffadwriaeth ef a'i chwaer yn ennyn. teimlad a dawn y tad yn seiat Engedi a mannau eraill; Evan Williams y limner, a luniodd ar y gynfas Eben Fardd a Dafydd Jones ac Edward Morgan, a erys yma hyd nes tynner ei lun yntau ar ddeunydd anniflant gan limner difeth; Thomas Hughes. araf araf, a'i dafod yn gwbl glöedig hyd nes yr enynner ei ddawn o newydd; Thomas Williams Rhyd—ddu, gyda'r hwyl lydan a'r balast bach, yn chwyrlio ar wyneb y tonnau brigwyn; John Williams Siloh syml ei nôd, taer ei lef ar annuwiolion Tanrallt; Ieuan Gwyllt, a impiodd gelfyddyd yr Ellmyn ar gân y Cymry, gan ei choethi a'i hurddasoli; William Owen Prysgol, a ganodd o'i big ei hun yn yr hwyrnos heb ddim i'w gymell ond y ddraenen yn ei fron; Dafydd Morris, a eglurai ryw ffansi gen i," ac a'i cymhwysai gyda bloedd hamddenol; William Griffith, arweinydd y gân ym Moriah a'r Sasiwn, llawn ysbryd ac asbri; Robert Lewis dyner ei wên, medrus ei gerdd, eang ei wasanaeth gyda chanu eglwysi'r cylch; William Evans y cenhadwr cywirnod o Millom; Goleufryn oleubryd oleulawn; Henry Edwards, y dywedwyd yn ei gynhebrwng y byddai Siloh yn argraffedig ar ei galon byth; John Edmunds gyfrwysgall, llawn adnoddau; John Owen "y glo," serchog yn ysgydwad ei law; Evan Hughes golomenaidd ei belydriad; John Jones y blaenor, yn byw, yn symud a bod er mwyn Engedi; Hugh Williams y Tyddyn a orfoleddodd nes dryllio'r byrddau coed; John Jones Llainmeddygon, ffyddlon i'w nôd; Rowland Jones Tygwyn, onest, ddefnyddiol; John Davies yr Ystrad, cyflawn wr yn eglwys y Betws; John Jones Beulah, ochelgar, cydnabyddus â'r gyfraith, craff ei edrychiad; ac nid yw hyn yn cyrraedd ond hyd o fewn dwy flynedd i ddiwedd y ganrif o'r blaen. Na, nid yma y maent ychwaith! Gellir cysylltu yr atgof am danynt â'r lle, am mai yma y bwriwyd eu plisgyn; ond dyna'r cwbl. Ym mynwent Eglwys Wen ger Dinbych y mae carreg las ac arni'n gerfiedig, "Llyma y gorwedd —," dim rhagor. Cerfiwyd y geiriau gan Twm o'r Nant, gan fwriadu torri ei fedd—argraff ei hun. Ataliwyd ei law gan ryw deimlad