Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu ryw reddf, ac arhosodd y garreg fel yna yn gofgolofn iddo, ac nid oedd eisieu ychwaneg. Nid yw'r gwir ddyn dan y garreg las honno: nid yw'r gwir gorff yno na'r hedyn ohono, namyn yn unig y plisgyn yr ymddihatrwyd oddiwrtho, ac a erys bellach yn yr allanol. Fe giliodd y dyn yn ol i'w wreiddyn, ac yno yn y dirgelwch yr erys, gan ymestyn yn ddisgwylgar hyd wanwyn siriol. "Llyma y gorwedd —," nid y gwir ddyn; y mae efe'n wr arallwladog, chwedl Jacob Behmen yng nghyfieithiad Morgan Llwyd. Nid "llyma y gorwedd," ond acw yr ymegyr. Nid gwneud eu bedd ym Mynwent Caeathro y maent; ond gwneud eu nyth yn y Mawr Ddirgelwch. Nid torri beddrodau Caeathro a wnant ar swn yr utgorn diweddaf; ond hedeg allan o'r nyth yn y Mawr Ddirgelwch, lle maent yn disgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth y corff, pryd y bydd yr holl greadigaeth gyda hwy "yn rhoi bloedd na chlywodd clustiau Duw erioed mo'i bath," ys dywedai Robert Jones Llanllyfni. Yn y Mawr Ddirgelwch, nid ym Mynwent Caeathro, y gorwedd eu corff goleu, hedyn corff yr atgyfodiad, ac allan o'r cyflwr goleu hwnnw, ac nid o'r pridd cleilyd, llaith,—oddieithr fel arwyddlun—yr ymagorant yn yr Adenedigaeth, gan hedeg allan i'r Rhyddid a'r Claerder ger gŵydd Wyneb Duw. Amen.

"O ynfyd! . . . . nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau. . . . . Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun."