ENGEDI.[1]
YR ysbryd cenhadol achosodd adeiladu Engedi, ebe Dafydd Williams. Gallasai hynny fod yn wir mewn rhan. Olrheinir cychwyniad yr ysgogiad am dano i'r flwyddyn 1837. Yr oedd yr achos ym Moriah y pryd hwnnw wedi cyrraedd awr anterth. Dywedai'r Capten Evan Roberts, oddiar ei atgof ei hun, y byddai'r capel yn llawn dan sang ar nos Sul pryd bynnag y pregethai Mr. Lloyd yno. A dywed Dafydd Williams, oddiar ei atgof yntau, y byddai llawr y capel yn rhwydd lawn yn y gyfeillach eglwysig. Yn wyneb hyn, fe ddichon mai nid anghywir dweyd mai'r achos i'r haid godi ydoedd i'r hen gwch orlenwi. A chydnabyddir nad oedd pawb o'r swyddogion yn addfed iawn i eangu'r terfynau, oddiar ofn niweidio'r achos ym Moriah yn ormodol. A mynnai rhai selog yn Engedi mai cam â'r achos yno oedd peidio âg adeiladu ddwy neu dair blynedd yn gynt.
Y prif offeryn yn yr ysgogiad am gapel newydd oedd Robert Evans, un o flaenoriaid Moriah. "Trwy graffineb a sel a dyfalwch Robert Evans, yn bennaf, y prynnwyd y tir ac y dechreuwyd adeiladu," ebe Dafydd Williams. Cefnogid Robert Evans gan Joseph Elias, blaenor arall. Yr oedd y gweinidogion, Dafydd Jones a Thomas Hughes yn anogol i'r symudiad, ac yn ei gefnogi ym mhob modd. Ystyrrid fod y tir a ddewiswyd gyda'r mwyaf manteisiol allesid fod wedi gael, ac mewn rhan o'r dref ag yr oeddid yn adeiladu tai yno ar y pryd. Mynnai rhai brodyr, gan gymaint eu sel, gael capel o'r un maint a Moriah. Dadleuai'r Parch. Dafydd Jones dros gapel canolig, a Robert Evans am gapel cystadl a Moriah. Ebe Robert Roberts stryd y capel, gan gefnogi Robert Evans, a dyfynnu Esai y proffwyd, "Yr Arglwydd a grea ar bob trigfa
- ↑ Ysgrif Mr. David Jones (Llys Arfon). Ysgrif Dafydd Williams (Conwy). Copi Mr. R. O. Roberts o Gofnodion Cymdeithas Lenyddol Engedi, 1879, yn cynnwys atgofion am y symudiad o Foriah, a chynnydd. yr achos yn Engedi. Atgofion Mr. John Jones (y Druid) ynghyda nodiadau o'i eiddo ar yr ysgrif hon. Ymddiddanion. Nodiadau Mr. William Roberts Bod Gwilym.