Pan gwyno dy bobl yn dy wyddfod,
Fan yma gan drallod yn drist;
O gwrando o fangre'th breswylfod
Eu hochain dan gryndod am Grist;
Dilea y gorchudd ar unwaith,
Datguddia holl frasder dy Dŷ;
Dod iddynt gip olwg ar ymdaith,
O fraint y gogoniant sydd fry.
Os Satan a feiddia droi heibio
Ei gryfach a'i dalio'n ei dwyll,
Gan wared trueiniaid fu'n reibio,
A'u dwyn yn rhai bywiol i bwyll;
Rhy gyfyng fo'r lle i'w breswylwyr,
Boed Seion mewn gwewyr i gyd,
Nes esgor ar fechgyn wnant filwyr,
I gario ei baner drwy'r byd.
Daeth 120 o aelodau Moriah i gychwyn yr achos yn Engedi, sef yr un nifer, ebe Dafydd Williams, a gychwynnodd yr eglwys Gristnogol. Yr ydoedd ef ei hun a'i deulu yn eu plith. Hefyd, heblaw'r ddau flaenor, William Evans Cilfechydd, a oedd yn flaenor yn y Waenfawr cyn hynny, ac yn dra thebyg wedi ei alw yn flaenor ym Moriah, ac yma. Ac ymhlith eraill y rhai yma: William Owen y llwythwr, Heol y capel, Owen Thomas Henwalia, Richard Humphreys clerc, Rice Jones asiedydd, John Edwards,—tad Henry Edwards, y blaenor yn Siloh— William Williams Maesincla, Capten Evan Williams, Capten William Evans, Owen Jones Stryd llyn, William Williams pobydd, Robert Roberts paentiwr, Capten Owen Owens yr Unicorn, Hugh Jones cariwr,—ceidwad y Guild Hall ar ol hynny, David Roberts Penmorfa, Hugh Jones teiliwr, John Thomas cigydd, Hugh Williams asiedydd, John Ethall y rhaffwr, Owen Lewis y ffeltiwr, John Brereton. Ac ymhlith y chwiorydd, Ellen Prichard Penygraig (neu Penybryn), Ann Prichard y Feisdon, Dros yr Aber, Hannah Llwyd a'i merch, Mary Edwards, Mary,—gwraig Daniel Jones (Llanllechid), Ann Roberts, a ddaeth yma o Manchester, Margaret, gwraig William Thomas y blaenor, Jane, gwraig Dafydd Williams, Ann Pritchard Gallt y sil, Susannah, gwraig y Capten Evan Roberts, Mary, gwraig y Capten Henry Williams, Jane Jones, mam Richard Jones y blockmaker, Elizabeth Roberts, Elizabeth Davies, Gwen Griffith, Ann Jones Tyddyn llwydyn, Mary