Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas, Catherine Price, Mary, gwraig y Capten John Jones, Elizabeth, gwraig Owen Griffith y cyfrwywr, Dorothy Williams, Ellen Jones Cefn mwysoglan, Mary, gwraig Evan Jones y blaenor, Ann Price, Jane, gwraig y Capten John Thomas, Catherine Jones Heol y capel, Ellen Jones Lôn fudr, Laura Robinson, Mary Brereton, Margaret Gibson, Jane Edwards.

Dywedir na ddarfu i eglwys Moriah, fel y cyfryw, gynorthwyo gyda dyled Engedi, er na chwynir na bu aelodau Moriah yn gynorthwyol yn hynny. Cwynid, hefyd, pan ddeuai gwr dieithr o'r deheudir heibio gyda'i gyfaill, y cedwid y gwr dierth gan Moriah, gan adael y cyfaill yn unig i Engedi. Ymhen amser, pa ddelw bynnag, medrodd Engedi honni ei hawl i'r gwr dierth ei hun yn ei thro; ond dim diolch i Foriah am hynny.

Derbyniwyd fel blaenoriaid o leoedd eraill, Capten Henry Williams y Chieftain a'r Capten Richard Hughes yr Hindoo, y blaenaf o Bwllheli. Dywed Mr. John Jones fod y ddau hyn yn ddynion da iawn, yn garedig a siriol, ac y cyfrifid hwy yn dduwiol ddiamheuol. Y blaenoriaid cyntaf i gael eu dewis gan yr eglwys ei hun oedd Owen Griffith a William Thomas. Symudodd yr olaf oddiyma i'r Ceunant. Gwr tawel, duwiol, y cyfrifid ef. Yn 1849 dewiswyd y Capten Evan Roberts ac Evan Jones.

Yn 1844, symudodd Daniel Jones yma o Garneddi; ac yn 1846 symudodd Dafydd Morris yma o Garneddi, ac oddiyma i Drefriw yn 1852, wedi bod o gynorthwy gwirioneddol i'r achos yma.

Bu farw William Evans (Cilfechydd) ym Mai 9, 1846, yn 86 oed, yn flaenor yn y Waenfawr er 1828, ac ym Moriah er 1840, ac, mae'n debyg, wedi ei alw i'r swydd yno, fel y galwyd ef yma ar gychwyn yr achos. Dyma sylw Dafydd Williams arno: "Cymeriad hynod oedd i William Evans. Gweddiai yn wahanol i bawb, a siaradai yn wahanol i bawb. Yr oedd yn dra derbyniol gan yr eglwys." Mab iddo ef oedd Robert Evans. (Edrycher Brynmenai a Waenfawr.)

Yn 1849 daeth David Davies yr exciseman yma, gan symud oddiyma yn 1854. Yr oedd y tri gweinidog, yn eu gwahanol ffordd, yn ddynion o ddawn go arbennig, a bu eu presenoldeb yn gyfnerthiad i'r achos. Deuai Dafydd Jones a Thomas Hughes, hefyd, yma i'r seiadau yn dra mynych, a rhoid mawr werth ar bresenoldeb y blaenaf o'r ddau yn enwedig. Yma y