Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daeth Evan Williams yr arlunydd yn gyntaf, pan ymsefydlodd yn y dref yn 1851, ond yn y man fe symudodd ei babell i Foriah.

Sylw Dafydd Williams ar Joseph Elias ydyw: "Yr oedd yn frawd i'r enwog John Elias, ond yn bur anhebyg iddo oddieithr yn ei gorff; ac odid y cawsai ei ddewis i'r swydd onibae am ei berthynas clodfawr. Eithr yr oedd efe yn wr duwiol, a bu farw mewn heddwch â'i Dduw." Yr oedd yr ymdeimlad ei fod yn frawd i John Elias, yr areithiwr mawr, yn peri iddo yntau fod mewn cryn lafur wrth gyfarch, fel y dywedir, ac yn naturiol yn peri iddo dybied fod rhyw ddisgwyliad wrtho yntau hefyd. Pan oedd William Roberts Clynnog mewn seiat ymweliad ym Moriah unwaith, gofynnodd i'r blaenoriaid fyned o'r neilltu, a Joseph Elias y pryd hwnnw yn eu plith, er mwyn cymell y brodyr i draethu eu meddyliau yn fwy rhydd. Yna fe gymhellodd yr ymwelwr y brodyr i draethu eu barn am y blaenoriaid. Cododd un ar ei draed ar unwaith, a dywedodd y dewisai ef i Robert Evans a William Swaine ddweyd mwy yn y seiat, ac i Joseph Elias ddweyd llai. "Ho!" ebe William Roberts, a galwodd y blaenoriaid i fewn, a thraethodd y genadwri yn wyneb-agored iddynt.

Bu Thomas Griffith o'r Waenfawr yma am ysbaid, pryd y dychwelodd yn ol i'r Waenfawr. Galwyd ef yn flaenor yma. Mawrth 16, 1852, y bu farw Daniel Jones (Llanllechid), ar ol trigiannu yn y dref am wyth mlynedd. Daeth yma ar ei briodas à Mary Gibson ei ail wraig. Croesawyd ei ddyfodiad yn fawr, a gwerthfawrogid ei bresenoldeb a'i lafur yn y lle. Fel gwr cyhoedus, yr oedd tymor ei fawr nerth i fesur drosodd, a Daniel Jones Llandegai a Llanllechid y parhaodd efe i fod, er ei drigias o wyth mlynedd yng Nghaernarvon. Ac yn ei gyfarchiad yn y cyhoedd yr oedd ei briodoldeb arbennig yntau. Dilewyd yr argraff oddiwrtho yn ei drigias yma, hyd yn oed i breswylwyr y dref, yn yr argraff oddiwrtho fel Daniel Jones Llanllechid; ond fel y cyfryw fe erys ei argraff a'i ddelw yn hir eto. Er hynny, yn eglwys ieuanc Engedi, fe fu ei arosiad yn werthfawr, oblegid ei ddifrifwch a'i symledd (Edrycher Carneddi.)

Yn 1852 y dewiswyd yn flaenoriaid, Dafydd Williams, y pregethwr wedi hynny, a Hugh Hughes.

Hydref 12, 1856, y bu farw Robert Evans, yn 66 oed, yn flaenor yma o'r cychwyn, a chyn hynny ym Moriah er 1828.