Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brodor o Dan y maes, Felinheli, a daeth yn aelod eglwysig yno pan nad oedd ond tuag wyth oed. Symudodd yn ieuanc gyda'i dad i'r Cilfechydd, ac ymagorodd yn llanc yn y Waenfawr. Bu yn yr ysgol gyda Dafydd Ddu Eryri. Mewn masnachdy yng Nghaerlleon, fe gafodd gyfleustra i ddysgu'r iaith Saesneg yn dda. Yn 21 oed fe ddaeth i gadw masnachdy yng Nghaernarvon. Ystyrrid ef yn wr ieuanc o nodwedd wylaidd, mwy tueddol i gadw o'r golwg na'r cyffredin. Er hynny, yn 27 oed fe'i gwnawd ef yn arolygwr ysgol Moriah. Dewiswyd ef yn flaenor dair blynedd yn gynt nag y derbyniwyd y swydd ganddo. Ail-ddewiswyd ef, ac hyd yn oed y pryd hwnnw drwy arfer taerni y cafwyd ganddo gydsynio. Bu am ysbaid wedi ei ddewis yn flaenor, ac yntau erbyn hynny yn wr 38 oed, nad ellid ond gydag anhawster ei gael i gyfarch y seiat, a thawedog ydoedd ym mhwyllgorau y blaenoriaid. Er hynny, pan geid ef i draethu barn, byddai'r farn honno yn fynych yn dirwyn y dyryswch i ben. Bu gwaith William Roberts Clynnog yn rhoi cyfleustra i'r frawdoliaeth draethu ei barn am y blaenoriaid, fel y crybwyllwyd ynglyn â Joseph Elias, yn foddion i ysgwyd peth ar Robert Evans, ac ymaflodd yng ngwaith ei swydd yn fwy egnïol. Er hynny, nid ymagorodd ei ddawn yn gyflawn tra fu ym Moriah, er ei fod yn 52 oed yn dod oddiyno. Dywedir yr eisteddai yng nghwrr pellaf y sêt fawr, wrth golofn. bellaf y pulpud a safai ar bedair colofn, ac allan o olwg y rhan. fwyaf. Disgrifir ef gan Mr. John Jones fel o "gorff cryf a lluniaidd, pen mawr, pâr o lygaid fel barcut, yn edrych drwy ddyn; ond er fod golwg llym arno, yr oedd ganddo ryw gilllygad cynes." Eithr ni bu yn ei flynyddoedd olaf ym Moriah mor dawedog ag y dywedid weithiau ar ol hynny. Fe ddywed Owen Jones (Manchester y pryd hwnnw), yn ei gofiant bychan iddo, mai ym Moriah, wedi derbyn cymhelliad William Roberts Clynnog ar yr achlysur a nodwyd, y cyfnewidiwyd ef yn drwyadl. Eithr nid yw hynny yn gytun yn hollol â thystiolaethau eraill, er y rhaid fod, debygir, lawer o wir yn y dywediad. Fe wyddys fod Robert Evans o gychwyn y mudiad dir- westol yn ymdywallt allan fel ufel berwedig o rombil llosgfynydd, ac yr oedd y mudiad hwnnw wedi cychwyn chwe blynedd cyn iddo ymadael â Moriah. Ond dichon, er bod ohono mor gyhoeddus gyda dirwest, ei fod yn gymharol dawel o hyd fel blaenor. A dyna'r dystiolaeth gyffredin. Ac y mae