lle i gredu, er holl ddull gwylaidd Robert Evans, a'i duedd i gadw o'r golwg, nad oedd mewn un modd yn amddifad o uchelgais, nac o'r ddawn i lywodraethu ac awdurdodi pan unwaith y caffai'r awenau yn deg i'w law. Y mae ambell natur a amgaea ynddi ei hun, os na chaiff hi gyflawn rwysg i ymagor yn y modd y mynn hi ei hunan, ac yn gwbl wrth ei chymelliad ei hun. Fe gafodd Robert Evans ei gyfleustra gyda'r mudiad dirwestol, canys fe ddaeth ar unwaith yn arweinydd iddo yn y dref; a chafodd ei gyfleustra drachefn yn yr eglwys ieuanc yn Engedi. Gyda dirwest, fe ddaeth yn arweinydd haid o ddynion. gorselog, liaws ohonynt wedi bod yn ymdrybaeddu yn y ffos ac i ymdrybaeddu ynddi drachefn, ond yng nghynnwrf eu tymerau ac yn nieithrwch eu profiad newydd, yn cyhoeddi eu hanathema mewn tân a mwg ar ddynion da heb eu hennill i gofleidio'r egwyddor ddirwestol. Ymdaflodd Robert Evans i'r ymdrech gyda dirwest â'i holl ynni. A'r un elfen ordeimladol, a barai iddo gynt gilio i mewn iddo'i hun yn wyneb pwys y gwaith, a barai iddo, hefyd, wedi unwaith ei gyffroi drwyddo, daflu heibio bob rhwystr, a chan godi'r fflodiart ar ddyfroedd fu'n croni cyhyd, eu gollwng allan bellach gyda rhuthr rhyferthwy. Fe lefarai y pryd hwnnw, ac am flynyddoedd gweddill ei oes, yn yr awyr agored ar y maes neu ar y pendist dan gyffroadau angerddol. Fe fyddai ei gorff yn ymnyddu, ei wyneb yn ymliwio yn gochddu, yr ewyn yn sefyll ar ei wefus, a'i lais yn darstain yr heolydd. A byddai ei ymadroddion yn cyfateb. Defnyddiai'r iaith gryfaf, halltaf, grasaf. Fe fyddai, fel y dywedir am rai creaduriaid, yn codi'r croen i ffwrdd â'i dafod. Fe adroddir y byddai'r Parch. Dafydd Jones yn cael ei flino gan segurwyr yn sefyll yn un rhes yn y pendist: byddai'n clywed eu swn o'i stafell. Gyda'i gyfrwystra arferol fe achwynodd wrth Robert Evans. Y tro nesaf y daeth yntau i'r pendist i gyfarch, fe gymerodd ei ddameg oddiwrth gyffeithio crwyn, a chymharai'r yfwyr yn y tafarnau i'r crwyn. yn socian yn y cyffaith. Enwai'r tafarnau yn y gymdogaeth lle byddai'r cythraul yn rhoi ei grwyn i socian, " ac yna," ebe fe, "y mae yn dod â hwy i'r pendist i sychu. Chwi a'u gwelwch yn un rhes wedi eu dodi yma i sychu. Crwyn y cythraul ydyn nhw wedi eu dodi i fyny i sychu yn y pendist." Daliodd ar grwyn y cythraul wedi eu dodi i fyny i sychu yn y pendist" yn ddigon hir i'r peth fyned adref, ac fe aeth y dywediad am
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/182
Gwedd