Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gryn ysbaid yn fath ar ddihareb yn y dref. Peidiodd yr arfer i gryn fesur, a chafodd Dafydd Jones lonydd i efrydu. Ond os gwelid ambell rai hyfach na'i gilydd o'r yfwyr yn rhyw lercian yn y pendist, fe ddywedid gan y rhai elai heibio, "Dacw nhw, crwyn y cythraul yn sychu!" Disgrifiai yn ddifloesgni yn eu clyw yn yr awyr agored ddrwg arferion llymeitwyr a meddwon, nes codi gradd o gywilydd ac arswyd ar liaws. I'r sawl a glywodd y disgrifiadau hyn ohono yn ieuanc, yr oedd clywed yn ddiweddarach mai blaenor gwylaidd, tawedog ydoedd unwaith ym Moriah yn swnio yn beth anhygoel. Fe ddywedir y bu darllen Finney ar ddiwygiadau yn foddion i gyffroi ei feddwl, ac i'w ddeffro i'r teimlad o gyfrifoldeb dros ei gyd-ddynion, a chafodd gyfleustra gyda dirwest ym mlynyddoedd cyntaf y mudiad i weithio'i argyhoeddiadau allan i ymarferiad. Yn Engedi, fe gymerodd ei le ar unwaith fel arweinydd, ac yr oedd ei ofal, mewn gwirionedd, dros bob rhan o'r gwaith. Yr ydoedd yn wr hoew, llawn ynni, ac ymdaflai yn hollol i'w waith fel blaenor yr eglwys. A chymerodd yr awenau yn o lwyr i'w ddwylo'i hunan. Erbyn hyn fe deimlid awdurdod ym mhob ystum o'i eiddo ac ym mhob ymddygiad. Medrai'r gwr oedd braidd yn rhy wylaidd i draethu ei feddwl ym mhwyllgor y blaenoriaid ym Moriah ddangos ei hun yn arweinydd cryf wedi i'r awenau ddod yn deg i'w ddwylo. Ac os oedd rhai yn gwrthddywedyd, yr oedd iddo ymlynwyr hefyd. Anfynych y bu gan neb bleidwyr mor selog. Edmygid ef oblegid. ei sel ddiflino gan liaws, ond tyngid iddo yn gwbl gan liaws eraill. Yr oedd gair Robert Evans yn ddeddf i ambell un, ac ni ymholid ymhellach na chael sicrwydd mai fel a'r fel y dywedodd efe. Un peth a roddai'r awdurdod hon iddo ydoedd ei gymeriad dilychwin a'i gyfiawnder ymarferol. Fe aeth yn ddihareb am onestrwydd yn ei fasnach, ac yr oedd ei fasnach yn un go helaeth. Ac yr ydoedd dros ben hynny yn wr caredig, cymwynasgar, haelionus gyda phob gwaith da, elusengar i'r tlawd. Fe aeth yn ddihareb am hynny hefyd. Gorfod oedd ar bawb, pleidiol iddo neu amhleidiol, edrych arno fel gwr of ysbryd hunanymwadol. Rhoddai hyn iddo ddylanwad dibendraw ar rai pobl, a llareiddiai yn fawr unrhyw wrthwynebiad a allasai eraill deimlo iddo. A rhaid cofio am ei sel or-danbaid gyda dirwest, mai sel gwr goleuedig ei feddwl ydoedd. Y dull unbenaethol ydoedd y dull cyffredin yn ei amser ef, ond bod