ganddo ef fwy o rym cymeriad na chyffredin yn peri i'r peth fod yn fwy amlwg ynddo. Er ei sel deyrngarol i'w eglwys a'i gyfundeb, yr oedd yr un pryd yn eang ei gydymdeimlad ag enwadau eraill. Ac er ei ymroddiad i ddirwest a chrefydd, yr oedd ganddo ofal am fuddiannau y dref. Etholwyd ef yn 1850 yn henadur y fwrdeisdref. Bu'n llywydd amryw gymdeithasau yn y dref, ac yr oedd yn drysorydd y Cyfarfod Misol. O'i gymharu âg eraill, fe allesid dweyd y bu rhai o flaenoriaid Engedi tuhwnt iddo mewn meddylgarwch, a bu rhai o flaenoriaid eraill y dref yn rhoi argraff o ysbrydolrwydd meddwl amlycach, ond ni bu un ohonynt a gyrhaeddodd ddylanwad mor eang. Fe gyflwynwyd ei lun iddo, wedi ei dynnu gan J. C. Rowlands, yn y Gymanfa Ddirwestol a gynhaliwyd yn y castell ym Mehefin, 1856. Dyma nodiadau ei gyfaill, Dafydd Williams, arno: "Gweithiwr heb ei ragorach yn yr holl wlad ydoedd. Darllenai lawer: yr oedd yn deall cyfreithiau'r tir yn rhagorol, a rhoddai gynghorion doeth i rai mewn penbleth. Areithiodd ar ddirwest gyda brwdfrydedd digymar, a gwnaeth argraff dda ar fyd ac eglwys drwy hynny. Gwelsom pan nad oedd ond rhyw ddau neu dri yn Engedi heb fod yn ddirwestwyr. Ceidwadwr selog fu am ran fawr o'i oes; ond yr oedd yn rhyddfrydwr da ers rhai blynyddoedd, a chondemniai y degwm a defodaeth yn ddiarbed. Gweddiwr anghyffredin yn ei flynyddoedd olaf. Holwr plant gwresog. Yn wir, pa beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur fe'i gwnae â'i holl egni. Rhoddai lawer o'i arian at achos y Gwaredwr. Astudiodd lawer ar Lyfr Daniel a'r Datguddiad. Yr ydoedd fel Obadiah yn ofni Duw o'i febyd. Bu am tua 14 blynedd yn golofn gadarn i'r achos yn Engedi. Cafodd lawer o helbul a thrafferth gyda rhai y rhoes ormod o le iddynt. Cafodd gystudd blin. 'Dyna air anwyl,' meddai wrthym un tro y pryd hwnnw,—Ac efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd a'u carodd hwynt hyd y diwedd. Bu farw mewn tangnefedd. Cafodd gladdedigaeth tywysogaidd. O'r cyfaill cywir a diblygion! Ni chawsom yr un ar ei ol tebyg iddo. Cawn gydgwrdd eto, ni a hyderwn, yn y wlad well." (Cofiant Alderman Evans, Owen Jones, 1857. Drysorfa, 1856, t. 390.)
Dirwestwr oedd i gyd drosto;—dirwest
Auraidd oedd ei fotto;
Dirwest! nid ofnai daro;
Beiddiai fyd, lle byddai fo.