Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Corniai wirfoedd Caernarfon . . .

Henadur cymwys eglwysig—ydoedd,
Henadur dinesig;
Gwr oedd o fraint gwyrdd ei frig,
Beunyddiol wr boneddig.

. . . Dyna'i enw, Dyn uniawn. (Eben Fardd).

Y flwyddyn y bu farw Robert Evans y daeth John Jones yma o Fethesda. Yr oedd yn flaenor yn Jerusalem, a galwyd ef i'r swydd yma. Yn Awst, 1857, gwnawd Engedi a Thanrallt yn daith Sabothol. Yn 1859 y symudodd Robert Lewis y pregethwr yma o Manchester. Yn 1859 y daeth Richard Jones y Treuan yma o Gaeathro; yn 1860 Hugh Owen o Birkenhead; ac yn 1861 y Parch. William Griffith o Bwllheli.

Fe ddywed Mr. David Jones fod dychweledigion diwygiad 1859 wedi glynu yn dda wrth yr achos, rai ohonynt yn ffyddlon gyda gwaith allan o olwg dynion. Dywed fod dylanwad neilltuol gyda Dafydd Morgan ar ei ymweliad yma, ac y pregethai weithiau yn y pulpud weithiau yn y sêt fawr. Byddai Marged Williams Heol y llyn a Catrin Edwards yn gyffredin yn arwain y gorfoledd. Byddai gorfoledd a chân yng nghyfarfodydd y bobl ieuainc weithiau am oriau. Nos Fawrth, Tachwedd 8, y daeth Dafydd Morgan yma. Gweddiai am ddracht o'r afon yr oedd ei ffrydiau yn llawenhau dinas Duw, a thorodd yn orfoledd. Dyma'r adeg y daeth Griffith y Clogwyn gwyn at grefydd, hen feddwyn o'r blaen, a glynodd i'r diwedd. Esgeuluswr oedd Sion Ffowc, ond dyn o ddawn a gwybodaeth. "Y diafol," meddai, "yw'r gwiriona a welis i erioed. 'Does gen ti ddim crefydd,' meddai wrthyf, 'does gen ti ddim.' Gyrr hynny fi bob amser ar fy ngliniau. A dyna lle y bydda'i yn i weld o'n wirion, y dywed o'r un peth wrtha'i drachefn a thrachefn, ac yntau yn gorfod gweld mai unig effaith hynny arna'i fydd fy ngyrru i at orsedd gras." Daeth Moses y Potiwr at grefydd y pryd hwn, er dod ohono i'r oedfa yn feddw. Dyma'r gwr fu'n cadw'r half-way-house ar y Wyddfa. Bu gan grefydd ryw afael arno yntau o hynny ymlaen. Dengys dyddlyfr Dafydd Morgan fod 47 o ddychweledigion yn Engedi yr oedfa honno. Ni wyddys ai ym Moriah ai yn Engedi yr oedd Dafydd Morgan yn gweddïo dros y morwyr. Ym mhen ysbaid mordwyodd llong o Quebec i'r Fenai gyda llwyth o goed.