Elsby oedd y capten, gwr o Gymro, a arferai gynnal gwasanaeth crefyddol beunydd ar fwrdd y llong. Un diwrnod galwyd y dwylo i gyd ond dau i'r caban i gyfarfod gweddi. Disgynnodd rhyw ddylanwad dieithr arnynt, a thorrodd yn orfoledd yn eu mysg. Galwodd y capten seiat, ac arosodd pawb ar ol, rhai am y tro cyntaf. Erbyn cyrraedd adref, deallasant fod y dylanwad dieithr wedi disgyn arnynt yn lled agos i'r amser yr oedd Dafydd Morgan yn gweddio dros y morwyr. (Cofiant Dafydd Morgan, t. 470).
Rhif yr eglwys yn 1853, 323; yn 1858, 345; yn 1860, 450; yn 1862, 450; yn 1866, 507. Swm y ddyled yn nechre 1853, £1,805; yn nechre 1854, £1,720 5s. 3c. Cyfartaledd pris eisteddle y chwarter, 1s. Swm y derbyniadau am y seti y flwyddyn, £121 13s. Casgl y weinidogaeth, £65 12s. Talwyd £50 am baentio'r capel yn 1853.
Mawrth, 1862, dechreuodd Robert Evans, mab y blaenor, bregethu. Awst, 1864, dechreuodd John Maurice Jones bregethu. Ebrill, 1865, dechreuodd Dafydd Williams bregethu. Yn 1865 daeth William Williams yma o Gapel Coch, Llanberis, newydd ddechre pregethu. Yn 1865 penderfynwyd, gyda chydsyniad y Cyfarfod Misol, helaethu'r capel. Yn 1866 bu farw Hugh Owen, yn 50 oed, yn flaenor yma er 1860 neu'n fuan wedi, ac yn Birkenhead er 1859. Galwyd ef yn flaenor yma yn fuan wedi ymsefydlu ohono yn y dref. Ystyrrid ef yn ddyn o synnwyr cryf ac o gryn allu meddwl. Darllenai'r cyfieithiadau o'r esboniadau Ellmynnig a ddeuai allan yn ei amser ef, ynghyd a llyfrau o nodwedd athronyddol. Yr oedd yn wleidyddwr aiddgar a goleuedig. Rhoddai amser i baratoi ar gyfer ei ddosbarth. Llafuriodd gydag ail-adeiladu'r capel, ac efe oedd y trysorydd ar y pryd. Annhueddol ydoedd, yn hytrach, i siarad yn gyhoeddus, ond pan wnae hynny, yr oedd yr hyn ddywedai yn ffrwyth paratoad meddwl. Yn wr pwyllog, arafaidd, gochelgar, nid oedd wedi ymagor yng ngwaith ei swydd fel ag i gyfateb i'w adnoddau, a disgwylid llawer oddiwrtho yn y dyfodol. Yr oedd ei dŷ yn llety pregethwyr. (Drysorfa, 1869, t. 236). Nodir gan Dafydd Williams yr anhawsterau ar ffordd helaethu'r capel. Yr oedd perchennog tri o dai—dau meddai Mr. John Jones—o flaen y capel yn dal yn gyndyn yn erbyn eu gwerthu. Yr oedd rhai o'r blaenoriaid, yn enwedig Owen