Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griffith, yn erbyn. Yr oedd yr hen adeilad, hefyd, yn waith cadarn. A dadl fawr y Cyfarfod Misol yn erbyn oedd y ddyled o £1,400. Gorfuwyd ar yr anhawsterau; ac nid oedd dyled yn aros yn niwedd 1865. Tynnwyd y cynllun gan Richard Owen. Nerpwl, a rhowd yr adeilwaith i Mr. Evan Jones y Dolydd. Yr oedd traul yr adeiladu, gan gynnwys gwerth y tai o flaen. y capel, tua £4,579. Yr oedd y capel wedi ei helaethu yn mesur o'r tufewn 70 troedfedd 1 fodfedd wrth 54 troedfedd 6 modfedd. Cynhelid y moddion yn ystod yr adeiladu yn yr ysgol Frytanaidd.

Cynhaliwyd cyfarfod yr agoriad, Ionawr 22-3, 1867. Pregethwyd gan Dafydd Jones, John Owen Ty'n llwyn, David Saunders, Richard Lumley. Rhif yr eglwys ar yr agoriad, 510. Erbyn fod yr agoriad drosodd yr oedd £810 mewn llaw tuag at y ddyled. Erbyn diwedd 1868 yr oedd y ddyled wedi ei thynnu i lawr i £3,450. (Drysorja, 1867, t. 145.)

Yn 1867 fe ddewiswyd yn flaenoriaid Robert Roberts, Thomas Hobley, Owen Evans, Thomas Owen, Owen Roberts, Yr oedd Owen Roberts yn ysgrifennydd yr eglwys er y flwyddyn flaenorol. Bu yn y swydd honno am dros 30 mlynedd, ac yna fe'i gwnawd yn drysorydd. Aeth ef yn hynafgwr yng ngwasanaeth yr eglwys, gan gynyddu mewn parchedigaeth i'r diwedd; ond gan iddo oroesi cyfnod yr hanes hwn rhaid tewi a son.

Rhagfyr 9, 1868, bu farw Owen Griffith, yn 70 oed, ac yn un o'r ddau flaenor cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys ei hun. Siaredir am dano bob amser gyda gradd o barchedigaeth. "Teidi, pert, gwisgo'n hynod o nêt," ebe Mr. David Jones. Y gwallt yn disgyn i lawr ar y talcen, ac wedi ei dorri ar y talcen, mewn llinell union berffaith, ebe Mr. William Ethall. Dyn bychan o gorffolaeth," ebe Mr. John Jones, wyneb glandeg a siriol. Botwm gwr ifanc' fyddai ei deitl gennym ni y plant. Ystyrrid ef yn bisin o beth bach del, wrth ben ei draed." Yr oedd ef a Griffith Jones Cefn faesoglen yn gydathrawon plant yn y sêt ganu. Owen Griffith yn holi'r plant yn gyhoeddus yn ei goler a chêt a chôt coler felfed. Y pwnc, arwyddion balchter. "Beth ydyw un o arwyddion balchter, fy mhlant i?" Griffith Jones yn sisial,—"Coler felfet." Y plant yn torri allan,—"Coler felfet." "Gweddiwn, gweddiwn,' ebe Owen Griffith. Brodor o Bwllheli ydoedd, mab y "dafarn