Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

loew," a gafodd grefydd yn ieuanc yn Rhuddlan. Yr ydoedd yng Nghaernarvon er 1822, a daeth i Engedi ar gychwyn yr achos. Yr oedd ef a Robert Evans yn gyfeillion mawr: Robert Evans yn arwain, Owen Griffith yn dilyn. Nid dilyn yn wasaidd, gan y meddai ar ewyllys anhyblyg. Manwl ei ffordd, ac yn rhoi ei fryd ar yr achos. Cyfiawn mewn masnach, boneddig mewn moes. Ystyrrid ef yn athro plant medrus. Edrychid ato ef yn fwy nag at Robert Evans am arwain profiad ysbrydol. Gofal ganddo, yr un pryd, am drefn a disgyblaeth. Dyma fel y dywedir am dano yng Ngofnodion y Gymdeithas Lenyddol: "Am Owen Griffith, rhaid dweyd mai nid yn aml y ceir tebyg iddo. Yr oedd yn ddyn bob modfedd, ac yn sefydlog fel y graig. Waeth pwy a newidiai, ni wnae ef. Hynod o ddidderbyn wyneb, ac y mae ei goffadwriaeth yn annwyl." Efe oedd y cyhoeddwr ers rhai blynyddoedd, a gwnelai hynny fel ef ei hun, yn dwt a threfnus. Arferai ddarllen rheolau yr ysgol yn gyhoeddus yn yr ysgol bob chwarter blwyddyn, a'r rheolau disgyblaethol yn y seiat yr un mor aml. Yr oedd yn ddirwestwr selog. Un tro, fe safai'r (Parch.) Ezra Jones, Edward Hughes, tad Menaifardd, ac yntau gyda'i gilydd, pryd y daeth Owen Williams y Waunfawr heibio. Owen Griffith yn holi am iechyd Owen Williams, ac Owen Williams yn cwyno; ac yna Owen Griffith yn rhoi awgrym nad oedd gormod o gwrw ddim yn dda i'r iechyd. "'Dwn i ddim," ebe Owen Williams, "fe fyddai'r hen bregethwyr yn cymeryd eu gwydraid o gwrw cyn mynd i'w gwelyau, a'u gwydraid drachefn cyn mynd i'r pulpud, ac yr oedden nhw'n ddynion cadarn nerthol, y fath y byddai cesyg goreu'r wlad yn sigo danyn nhw; ond am bregethwyr y dyddiau yma, y gwaherddir cwrw iddyn nhw, y mae nhw'n greaduriaid mor eiddil, pe dodasid hanner dwsin o honyn nhw ar gefn bwch gafr, ni sigai i gefn o ddim danyn nhw. Dydd da!"—ac ymaith ag ef, gan adael Owen Griffith i ryfeddu ar ei ol.

Yn 1868 daeth John Edmunds yma o Dwrgwyn, Bangor, ac Owen Jones o'r Betws Garmon. Mai 25, 1868, bu farw'r Capten Owen Evans yn 57 oed, wedi bod yn flaenor prin flwyddyn. Dywedir mai gair Mr. Lloyd am dano ydoedd.—" Owen was a nice boy when at school." Gwr hoffus, serchog, tawel, haelionus. Yr oedd yn gryn ddarllenwr, a chanddo gasgl da o lyfrau. Fel capten