fe arferai gadw'r ysgol ar y Sul yn y llong pan ganiatae y tywydd. (Drysorfa, 1870, t. 74.)
Yn 1869 bu farw John Maurice Jones, yn 24 oed, ac wedi bod yn pregethu am 5 mlynedd. Mab ydoedd ef i'r Parch. John Jones, ac yn meddu mesur o'r un ddawn a'i dad, ond heb ei rym corfforol. Difrif ei ddull fel dyn a phregethwr. Yr ydoedd yn yr un dosbarth yn y Bala a Daniel Owen, a dywedai ef ond i John Maurice fod yn yr arholiad y teimlai ef ei hun yn gwbl dawel am y result,—y cedwid ef rhag y sun-stroke! Ar garreg ei fedd ceir y llinellau yma :
Ti fwriadaist efrydu—hirfaith ddydd.
Arfaeth Ior a'i thraethu;
Ond ti alwyd i deulu—y nefoedd,
I fyw'n oesoesoedd ar fynwes Iesu.
Medi 6, 1870, bu farw y Parch. William Griffith, yn 60 oed, ac wedi trigiannu yn y dref 9 mlynedd. Daeth yma o Dalsarn. Bu yn pregethu gyda'r Bedyddwyr, ond newidiodd ei olygiad. ar fedydd. Bu'n gwbl ffyddlon gyda'r achos yma. Meddai ar ddawn fuddiol yn y seiat. Yr oedd yn ddyn gostyngedig o ysbryd, ac yn byw mewn cymdeithas â gwrthrychau ysbrydol. Y mae yn fwy adnabyddus yn y wlad fel William Griffith Pwllheli, am y rheswm, fe ddichon, mai yno yr ydoedd yn ei nerth mwyaf. Fe ddywedir y byddai ar brydiau yn cael odfeuon nerthol ac effeithiol. Yr oedd yn rhwydd ei ddawn, ac yn arfer disgyn ar faterion buddiol. Byddai ganddo ambell gymhariaeth a gyffroai sylw ac a lynai yn y cof, megys honno am dragwyddoldeb yn gyffelyb i'r dwfr ar olwyn melin, yn cael ei daflu oddiar y naill astell i'r llall yn ei rod, gan beri i'r olwyn droi yn ei hunfan a gwneuthur ei gwaith, tra'r oedd amser fel y ffrwd is ei law yn symud ymlaen heb ddal arni, ond yn unig fel y gallai wasanaethu i amcanion bywyd tragwyddol. Ei air olaf,—"Y Baradwys Nefol!"
Credadyn llawn cariad ydoedd,—o reddf
Gwr addfed i'r nefoedd;
Athraw od ei weithredoedd
A Gwr Duw, iach ei gred oedd.
Yn 1871 dechreuodd Ezra Jones bregethu. Symudodd i'r Lodge, Chirk, yn 1876. Daeth John Griffith yma gyda'i dad,