Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parch. W. Griffith. Yr oedd wedi dechre pregethu yn Nhalsarn. Aeth oddiyma i Mancott, lle'r ydoedd yn weinidog Bu wedi hynny yn Southport.

Yn 1872 bu farw Hugh Jones, yn 88 oed. Yr oedd yn flaenor yn y Bontnewydd cyn dod yma wedi heneiddio ohono, a galwyd ef i'r swydd yma. Dyma ddisgrifiad Mr. John Jones ohono: "Hen lanc oedd Hugh Jones. Golwg braidd yn sarug arno; ateb swta; gair garwa ymlaen; ond y ffeindia'n fyw wrth blant, a phawb o ran hynny. Meddwl cryf, darllenwr mawr, cadarn yn yr ysgrythyrau. Llais cras oedd ganddo, a pheswch. trwm, poenus; ond er hynny, efe oedd y gweddiwr melysaf o bawb yr oedd rhyw felodi nefol yn chware ar dant calon dyn wrth ei wrando. Gwesgid allan o'i enaid mawr ryw brofiadau bendithiol." Brodor o Fôn. Bu dan argyhoeddiad dwys am ei gyflwr, ac ymloewodd fwyfwy o ran ei grefydd. Yn ei flwyddyn olaf i gyd fe ddysgai adnod newydd bob dydd, ac ad— roddai y saith gyda'i gilydd yn yr ysgol. Yn ddifwlch yn y gwasanaeth teuluaidd cystal ag yn weddiwr mawr yn gyhoeddus. Bu'n gweddio bob dydd am saith mlynedd am i'r Hispaen gael ei hagor i'r cenhadon Protestanaidd, a gwelodd gyflawni ei ddeisyfiad. (D. Jones.) Dyma sylw Dafydd Williams arno: "Pa swm a rowch?' meddai Mr. Morgan wrth gasglu at goleg y Bala [yn y Bontnewydd, debygir]. Dwy bunt,' meddai yntau. 'Ie, dwy bob blwyddyn,' meddai Mr. Morgan. 'Ië, waeth gen i,' meddai yntau. Dysgodd adnod bob dydd ers blynyddoedd. Mor iraidd y dywedai ei brofiad! Daliai unwaith yn y dull hwnnw ar y geiriau,—Af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus. Cadwodd dicet ei aelodaeth eglwysig a gafodd yn hen gapel Lon y popty am dros 60 mlynedd. [Gerllaw Bangor, pan yn was fferm, y cafodd argyhoeddiad.] Heddwch i'w lwch." (Edrycher Bontnewydd.)

Gorffennaf 21, 1873, y bu farw Evan Jones, yn 67 oed, ac wedi gwasanaethu fel blaenor ers 24 blynedd. Yr oedd ei wraig yn ferch i Joseph Elias. Mwy peth ydoedd iddo fod yn dra ffyddlon fel athro plant am yn agos i hanner can mlynedd. Cyn belled ag y gallesid barnu wrth edrych, fe ymddanghosai yn athro tyner iawn, ac eto gofalus ac ymroddgar. Fe ymddanghosai, hefyd, yn wrandawr astud, yn y cyffredin yn sefydlu ei olwg ar y pregethwr. O dan bregeth iraidd iawn gwr o'r Deheudir yn oedfa 6 y bore yn Sasiwn 1872, ar y geiriau, Pan glafychodd