Seion, hi a esgorodd hefyd ar ei meibion, fe ymddanghosai yn teimlo'n ddwys: siglai ei gorff a thorrai allan gyda'i "Ho! ho!" "Diniwed perffaith," ebe Mrs. Jane Owen am dano. Cyffredin ym mhob ystyr y bernid ef ond am ei gywirdeb a'i ddiffuantrwydd a'i ffyddlondeb gyda phob rhan o'r gwaith. Ac oherwydd hynny, nid aeth ymaith heb deimlad o chwithdod ar ei ol. Bu farw mewn tangnefedd. (Goleuad, 1873, Awst 2, marwrestr.)
Symudodd Dafydd Williams oddiyma i Fangor yn 1874, wedi bod yma er cychwyniad yr eglwys, wedi ei wneud yn flaenor yn 1852, ac wedi dechre pregethu yn 1865. Yr oedd chwant pregethu ynddo ers talm. Wele gofnod Cyfarfod Misol Mehefin 7, 1858: Derbyniwyd cais Mr. David Williams Caernarvon am ganiatad i bregethu eto. Pasiwyd penderfyniad i dderbyn pleidlais yr eglwysi o'r neilltu, pryd y cafwyd II o blaid a 26 yn erbyn, ac yn dymuno iddo aros fel y mae. Penderfynwyd, hefyd, i'r ysgrifennydd ddanfon y penderfyniad hwn i'r brawd David Williams." Eithr ni bu neb erioed mwy taer am bregethu, ac o'r diwedd ymhen 7 mlynedd ar ol y penderfyniad diweddaf yma, ei daerni ef a orfu. Y farn gyffredinol, hyd y gwyddys, ydoedd fod y syniad a ffynnai yn yr eglwys ac yn yr eglwysi na ddylai fyned yn bregethwr yn gywir, canys dyna oedd y syniad er i'r naill a'r llall ildio. Canys pa beth na ildia o flaen penderfyniad meddwl? Nid oes lle i dybio yr amheuid y gwnelai gystal pregethwr ag ambell un a godid o bryd i bryd; ond y gred ydoedd ei fod eisoes yn gwneud gwaith da fel blaenor, ac nad oedd dim lle i ddisgwyl y gwnelai bellach, ac yntau yng nghanol oed gwr, gystal gwaith fel pregethwr. Eithr fe ellir dweyd ddarfod iddo barhau i wneuthur gwaith blaenor, oddieithr fel y cymerid ef oddicartref ar y Sul. Dilynai y moddion canol wythnos yn gyson, gan gynorthwyo'r blaenoriaid gyda phethau amgylchiadol, ac ymwelai lawer â'r claf, ac ae i gynhebryngau. Meddai ar ddawn i gadw seiat. Siaradwr arafaidd a thrymaidd oedd. Yr oedd ganddo bresenoldeb da, yn ddyn yn tynnu at chwe troedfedd o uchter, gyda wynepryd hir, a gwallt goleu, plethog. Wynepryd da ond yn unig ei fod yn dra thrymaidd; llais clywadwy, trymaidd. Pethau cyfaddas, ond fel olwynion cerbydau Pharaoh gynt yn gyrru yn drwm. Ond ni waeth prun, yr oedd yn meddu ar ddawn seiat. Yr oedd iddo