hunan-feddiant perffaith: ni theflid ef fyth oddiar ei echel, fel y digwyddws gyda cherbydau Pharaoh. Fe wyddai pa fodd i gyfarch pawb: nid elai fyth yn hyf ar hen nac ieuanc. Yr oedd mor ystyriol o'r tlawd ag ydoedd o'r cyfoethog, o'r diwybod ag o'r gwybodus. Elai'n araf a thyner o amgylch pobl ofnus, a phobl mewn profedigaeth. Ni adawai i anwybodaeth neb na diffyg synnwyr neb ymddangos o'i ran ef. Ni fethid ganddo fyth. Meddai ar gallineb mawr a chyfrwystra mawr. Ac yr oedd ganddo ddigon o gyfrwystra i guddio'i gyfrwystra. Rhoe anerchiad ar y gwaith cenhadol yng nghyfarfod gweddi ddydd Llun cyntaf y mis, a byddai'n wastad wedi paratoi, fel y ceid ganddo bob amser rywbeth a gymhellai sylw oherwydd ei ddyddordeb fel hanes. Yn y pulpud yr oedd yn arafach nag oedd raid. Yn naturiol araf, fel pregethwr fe arafai fwy na natur. Fe ddengys y nodiadau o'i eiddo a ddyfynnwyd y medrai gyfleu pethau heb ryw gwmpas mawr. Dengys ei nodiadau ar bregethwyr ar waelodion y dalennau yn y Gofadail Fethodistaidd yr un peth. Nid y mater oedd yn gwmpasog, ond y llefaru oedd yn hwyrdrwm. Gwnaeth waith buddiol â'i Lampau y Deml, ac i fesur â'i Gofadail, ac fel blaenor a bugail, er heb ei gydnabod o ran tâl ariannol fel bugail. Nid yw ei ysgrif ar gychwyniad yr achos yn y dref, a'i barhad yn Engedi, a gafwyd drwy law ei weddw, namyn nodiadau lled fyrion, wedi eu cyfleu eisoes yn o lwyr, heb amseriadau braidd, ac am bethau yma ac acw, ond gwerthfawr er hynny; er fod lliaws o honynt wedi ymddangos o bryd i bryd yn y Drysorfa, wedi eu danfon yno ganddo ef ei hun. Ionawr, 1875, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu'r Parch. Evan Roberts, a ddaeth yma o Birmingham. Hwn oedd y cyfarfod sefydlu cyntaf gan y Methodistiaid yn y dref.
Yn 1875 cyflwynwyd tysteb a hanner can gini i'r Parch. John Jones. Ym Mai fe ymadawodd, gan dderbyn galwad o Rosllanerchrugog. Yr ydoedd wedi bod yn y Rhos yn cynnal cyfarfodydd diwygiadol am fis o amser yn gynnar yn y flwyddyn, a gwelwyd yno 198 yn ymgyflwyno i'r eglwysi. Yr ydoedd ef yn wr poblogaidd fel pregethwr drwy gydol ei oes. Eithr fe ddichon fod y llewyrch mwyaf arno rhwng diwygiad 1859 a'i fynediad i'r Rhos. Cyffrowyd ef yn fawr yn nhymor y diwygiad hwnnw, a delw'r diwygiad oedd ar ei bre-