narvon i lawer, yn enwedig mewn rhai cyrrau o'r wlad. Bu ef ei hun yn adrodd am wr yn y Deheudir yn ei ddilyn o oedfa i oedfa, deirgwaith y dydd, dair arddeg o weithiau. Ei ddawn yn y seiat oedd ar yr un llinellau ag yn ei bregethau. Yr oedd yno, hefyd, yn gwbl rydd, a'i ddull yn gymhelliadol i rai draethu eu meddwl. Rhoe gyfle teg i bawb ddweyd yr hyn oedd ganddo, ac ni olrheiniai y pwnc yn rhy bell, ni arweiniai yng nghyfeiriad dyrus-bynciau, ni sugnai i drobwll, ni chludai yn erbyn creigiau. Anfynych iawn y gwelid deufor-gyfarfod, ond os digwyddai hynny ar dro yn achlysurol, nid eiddo ef mo'r dymer a dawelai'r mymryn cythrwfl, ac a welai'r fantais yn y gwrthwynebiad, gan hwylio ymlaen i'r môr tawel, heb gymeryd arno fod dim ond yr hyn oedd gynefin i ddyn wedi digwydd. Er hynny ni welid mono yn amhwyllo, a thra anfynych y digwyddai dim ond hwylio llyfn ar dywydd teg. Fe'i ceid ef yn ddedwydd ar ol sasiwn. Wrth i hwn a'r llall adrodd yr hyn a lynodd yn ei feddwl, ceid gweled ei fod yntau bob amser wedi dal ar y sylw, ac ail-adroddai ef y rhan amlaf, er mwyn i bawb glywed, yn llawn fel y dywedwyd ef. A byddai ganddo'i ffordd ei hun o alw sylw at gyfaddaster neu brydferthwch yr hyn a adroddwyd. Yr oedd ganddo gof da, ac yr oedd greddf y siaradwr ynddo yn ei alluogi i werthfawrogi ystyr pob cyffyrddiad tebyg o apelio at y galon. "Pwy fuasai'n meddwl am wneud defnydd o gymhariaeth fel yna ond hwn a hwn?" "Pa bryd y clywsoch chwi yr apel yna yn cael ei chyfleu mewn dull mor ddeheuig?" "Pwy glywsoch chwi erioed yn diweddu pregeth yn y dull yna?" sef Robert Ellis Ysgoldy mewn Cyfarfod Misol yn gofyn cwestiwn ar ddiwedd pregeth, ac yna yn sefyll yn fud yn wyneb y gynulleidfa am rai eiliadau, ac ar hynny yn eistedd i lawr yn ddisymwth. Mewn ambell i seiat fe godai ei lais yn araf deg, yn uwch uwch, gan fwyneiddio wrth ymgodi, a byddai rhyw deimlad yn y lle megys oddiwrth awel esmwyth yn chwythu. Rhaid fod y pryd hwnnw yn Engedi ddeunydd seiat fwy effeithiol na chyffredin. Yr oedd Robert Ellis Ysgoldy adref yn gwrando ar John Jones, Llanllechid y pryd hwnnw, y Sul, Tachwedd 19, 1854. A dyma ei sylw arno: "Ychydig fwy o lafur a gwell manteision wnaethai y gwr hwn yn ben y gamp." Fe greffir fod y Sul hwnnw cyn diwygiad 1859, pan y cyffrowyd, mae'n ddiau, ddyfnder newydd o deimlad yn y
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/194
Gwedd