pregethwr. Er hynny, fe arosai'r sylw yn wir am hyd oes. John Jones. Yr oedd ef y pregethwr mwyaf poblogaidd yn sir Gaernarvon ar ol symud Dafydd Jones. Ae lawer i siroedd eraill ac i'r Deheudir, ac nid yn anfynych am deithiau o fis neu chwech wythnos. Ac yr oedd wedi symud i sir Fflint yr 11 mlynedd olaf o'i oes. Nid teg, gan hynny, fuasai ceisio cymharu ei ddylanwad ef ar Arfon â phregethwr mor gartrefol a Dafydd Morris, dyweder, ac un a gafodd oes mor faith. Sicr ydyw fod yr argraff oddiwrth Dafydd Morris. ar Arfon, heb ddoniau swynol a phoblogaidd yn hollol, yn gryn lawer dwysach nag oddiwrth John Jones; ond o'r ochr arall, tra nad oedd cylch Dafydd Morris nemor fwy na hanner sir, oddieithr yn achlysurol, yr oedd cylch John Jones yn cynnwys tair sir arddeg Cymru a lliaws o drefi Lloegr. Eithr i bob hedyn ei gorff ei hun.
Am faddeuant y pregethai;
Am faddeuant llawn a hael,—
Fod maddeuant i'r pechadur
Gwaethaf, duaf, heddyw i'w gael.
"O, mae'n maddeu hyd yr eithar,"
Llefai,"O, mae'n maddeu'n awr." (Glaslyn).
Fe drefnwyd ymweliadau yn y dref yn ystod Awst a Medi, 1867. Y mae'r Parch. John Jones wedi cadw dyddlyfr o'i ymweliad ef. Ni roir amseriadau yn gyson. Rhoir yma rai enghreifftiau: "1867, Awst 1. Bum yn Nhanrallt [Siloh] yn cadw seiat. Penderfynwyd yn y seiat gael cyfarfod gyda'r plant bob wythnos. . . . Pregethais yn Glanymôr. Penderfynwyd yng Nglanymor, hefyd, gael cyfarfod gyda'r plant bob wythnos. . . . Bum drwy'r workhouse, a'r nos bum yn cadw cyfarfod gyda'r plant yng Nglanymôr. Ymwelais âg amryw deuluoedd ym Mountpleasant a arferai wrando yn Siloh, rai ohonynt yn ymyl gwrthgilio. Addawsant ddychwelyd. . . . Ymwelais â'r carchar. Yr oedd un carcharor wedi bod yn proffesu gyda'r Methodistiaid. Cefais ymddiddan âg ef am oddeutu hanner awr. Dangosai lawer o edifeirwch. . . . Teimlaf pe cawn fod yn foddion i adfer ond un at Dduw y byddai o werth annhraethol. Awst 16. Cyfarfod darllen gyda rhai mewn oed hyd 10 o'r gloch y nos. Awst 29. Yn yr Ysgol Frytanaidd. Yr athraw a'r athrawes yn foddlon i gymeryd plant gwir dlodion am geiniog yr wyth-