nos. Awst 30. Ar hyd Mountpleasant yn eu hannog i ddan— fon eu plant i Siloh at gyfarfod y nos. Daeth 60 ohonynt ynghyd. Stryd Waterloo. Un yn darllen y Beibl ond yn hynod lesg o gorff. Dymunai gael gwneud coffa o farwolaeth. yr Arglwydd, oblegid tybiai nas gallai fyned i Engedi byth mwy. Yr ydoedd yn profi yn amlwg ei bod mewn cymdeithas aml â'i Harglwydd. . . . Ymddiddan ag un arall a addawai ddychwelyd ar yr amod i ni beidio â dweyd dim wrthi y noson gyntaf; ac felly y daeth. . . . Ymddiddan âg un arall hynod wael ers llawer blwyddyn. Perthynai i'r Anibynwyr. Adroddai'r geiriau,— Anghofiwyd fi fel un marw allan o olwg.' Teimlai nes wylo. Teimlai nes wylo.... Ymweled âg aelod o Foriah. Y mwyaf annuwiol a'r mwyaf meddw yn y dref yma oeddwn i, ond o drugaredd gwelais fy ffolineb. . . . Mae dyn yn greadur gwael, ond os caiff o Iesu Grist yn second wrth ei gefn fe'i gwneiff hi'n bur dda.' Tybiwn wrtho mai hen ymladdwr ydoedd. Bum yn ymddiddan â thri wedi eu diarddel o Siloh am feddwdod. Dywedai un,—' Yr wyf wedi bod yn crwydro o le i le fel colomen Noah, ond heb gartref: nis gallaf fod yn dawel nes dychwelyd yn ol.' Dywedai'r llall, Yr oeddwn yn teimlo fy ngliniau yn fy ngollwng wrth fynd allan nos Sul, ac os gwel Duw yn dda mi ddof yn ol.' Ac felly fu. Trwy'r workhouse. Cefais ymddiddan â'r hen chwaer, Catherine Williams. Dywedai ei bod yn cael popeth angenrheidiol er ei mantais i gael yr un peth angenrheidiol. . . . Ymweled â lodes wael yn y Bank, oedd mewn pryder am ei mater tragwyddol. Nid oedd erioed wedi bod yn proffesu crefydd. . . Ymweled â lliaws o gleifion yn perthyn i Benrallt, Tanrallt ac Engedi."
Cyflwyno tysteb i William Williams, sef anerchiad ac £16. (Drysorfa, 1875, t. 432.) Yn 1876 dechreuodd W. Hobley bregethu. Y flwyddyn hon fe gasglwyd at y ddyled £1,070, gan adael gweddill o £1,688.
Tachwedd 22, 1877, bu farw Richard Jones, yn 86 oed, yn flaenor yma er 1859, a chyn hynny yng Nghaeathro a Moriah. Gorchwyl bychan ganddo, ebe Dafydd Williams, oedd myned i Aberdaron, 40 milltir o ffordd, ar gefn ei farch, erbyn dechreu'r Cyfarfod Misol. Yr oedd ganddo atgofion am bregethwyr y rhan gyntaf o'r ganrif, ac arweiniai'r canu pan oedd Ebenezer Morris yn sasiwn Caernarvon. Soniai am yr oedfa