Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honno ar hyd ei oes, megys pe bae yn fyw o flaen ei lygaid. Yn ysgrythyrwr campus. Byddai ganddo sylwadau pwysig yn ei gyfarchiadau, a byddai ei weddiau a'i gynghorion yn cael eu gwerthfawrogi yn y Cyfarfod Misol yr adeg yr arferai efe eu dilyn. Bu'n arwain y gân mewn lliaws o sasiynau yng Nghaernarvon. Deallai'r hen nodiant yn dda, ac yn ei amser goreu yr oedd yn lleisiwr rhagorol. Yn un o'r dirwestwyr cyntaf yn y wlad, a dioddefodd yn ei fasnach oherwydd ei bybyrwch gyda hi. Parhaodd yn athro ysgol hyd nes myned dros ei 83 oed, a dilynai bob moddion yn gyson, er mai ar ei ddwy ffon bagl yr ymlwybrai iddynt, gan gymeryd awr gron weithiau yn ei flynyddoedd olaf i wneud hynny. Paratoai yn ofalus ar gyfer ei ddosbarth hyd y diwedd. Byddai ef a John Jones y blaenor yn troi at ei gilydd, megys wrth reddf, gydag ambell sylw a'u gogleisiai mewn pregeth. Yr un pryd, fe fwynhae bob pregethwr o'r braidd, a chlywid pethau goreu y pregethau ganddo yn ei ymddiddan, neu ei weddi, neu ei gyngor yn y seiat. Byddai pethau go anarferol yn fflachio allan ohono weithiau ar weddi. Unwaith fe goffhae yr adnod, "Ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach," a thorrai allan, "Ië, Iesu mawr, cymeryd arnat yr wyt, er mwyn ein clywed ni'n gwaeddi, 'Aros gyda ni." " A phan ddigwyddai sylw felly, byddai eneiniad oddiuchod arno. (Goleuad, 1877, Rhagfyr 15, t. 5. Edrycher Caeathro.)

Yn 1877 dewiswyd yn flaenoriaid, John Davies (Gwyneddon) a Griffith Williams. Yn 1878 daeth Abraham Bywater yma o Jewin, Llundain, lle'r ydoedd yn flaenor, a galwyd ef i'r swydd yma.

Awst 11, 1879, bu farw Owen Jones yn 77 oed, yn flaenor yma er 1868. Bu'n flaenor yn Eifionnydd, Fflint a Môn. Gwr siriol, synhwyrol, o dymer dda, ac o argyhoeddiad crefyddol. Byddai'n llym wrth ddrwg, yn dyner wrth y person. Yn credu mewn cynnal disgyblaeth: wrth godi ei law wrth ddiarddel fe'i codai gyn uched ag y gallai, a dodai ei law chwith wrth fôn ei fraich dde i'w dal i fyny, ac yr ydoedd gyda'r olaf i'w gollwng i lawr. Os na wnae efe hynny bob tro, fe'i gwnelai weithiau. Diysgogrwydd ei syniad am angenrheidrwydd disgyblaeth a barai hynny. Dywedai yn gryf yn erbyn y regatta flynyddol yng Nghaernarvon. Yr ydoedd wedi byw ei hun gan mwyaf ynghanol gwlad, ac yn edrych ar y cyfryw bethau