megys o bell; neu, yn naturiol, yr oedd yn rhydd oddiwrth surni a meddwl crebach. Wedi treulio ei oes fel amaethwr, fe gymerai ei ddameg yn awr ac eilwaith oddiwrth bethau gwlad. Siarad yn fyrr y byddai ac yn synhwyrol, ond pan ddisgynnai ar dro ar gymhariaeth wledig fe geid ganddo fyw- iogrwydd arabus, megys wrth ddisgrifio'r cywion bach yn nyth y robyn goch, yn agor eu pigau gyn lleted fyth ag y gallent, nes ymddangos megys fel na baent yn ddim ond pigau agored i gyd, lonaid nyth ohonynt, ar ddynesiad y tad neu'r fam aderyn gyda'r bwyd. Ni thraethai brofiad uchel: "y mae y gelynion yn fyw o hyd." Eithr fe gredid ynddo fel dyn da; ac ni byddai ei rybuddion yn pellhau nemor neb, canys fe wyddid fod ei amcan yn gywir, a'i fod yn ddyn diragrith. Sylwa Mr. William Roberts iddo ef ei gael bob amser â'i fryd ar lesau dyn ieuanc wrth gyfarfod âg ef. (Goleuad, 1879, Awst 23, t. 12. Edrycher Salem, Betws Garmon.)
Awst 1, 1880, yn 55 oed, bu farw Robert Roberts y Cross, blaenor er 1867. Brodor o'r dref. Pan yn gwneud sylw coffadwriaethol ar John Jones y blaenor yn y Cyfarfod Misol, fe ddarfu Mr. Evan Roberts ei gyferbynu â'r blaenor fu farw ddiweddaf o'i flaen, sef Robert Roberts, gan alw Robert Roberts y blaenor galluog a John Jones y blaenor da. Yr oedd Robert Roberts yn ddiau yn berchen meddwl naturiol grâff, cystal a'i fod wedi ei ddiwyllio yn ol ei fanteision. Yr oedd ganddo wyneb â chyffyrddiad o debygrwydd rhyngddo a Pascal, heb fod y bochgernau mor amlwg, ac heb fod y llygaid mor fawrion a goleu. Tuedd i ymesgusodi rhag siarad yn y seiat oedd ynddo, ac am hynny ni ofynnid iddo'n aml; ond pan wnae, fe deimlid ar unwaith ei fod yn olrhain ei bwnc fel bytheuad yn olrhain carw. Fe deimlid hynny yr un fath pan fyddai amgylchiadau wedi codi rhyw fater i sylw yn annisgwyliadwy. Sylwa Mr. William Roberts ar ei ddull cyson o godi pob pwnc i'r clawr ysbrydol, a nodir ganddo mai ei ddau air mawr fyddai "yr ysbrydol" a'r "tragwyddol." Metha gan Mr. Roberts ddeall pa fodd yr oedd mor dawedog yn y seiat. Olrhain mater y byddai fel athro ysgol. Ni ddangosodd ymroddiad neilltuol gydag unrhyw beth perthynol i'r achos hyd y gwyddys, er ei fod yn dangos gradd o ffyddlondeb gyda phob rhan o'r gwaith, yn neilltuol yr ysgol. Nid oedd yn ddyn cryf, nac yn feddiannol ar hoewder ac ynni, a thebyg fod hynny wedi