llesteirio ei ddefnyddioldeb i fesur. Byddai'n wastad o bum munud i chwarter awr yn hwyr yn yr oedfa fore Sul; ond elai i'w le yn eithaf hamddenol ar bob pryd. Gwr tawel ydoedd, a hunanfeddiannol, ac anibynnol ei dymer, ac heb adael i'w deimlad redeg i ffwrdd gydag ef; ond er hynny yn llochesu gradd o dymer a nwyd allan o'r golwg, a ddeuai ar dro i'r golwg gyda phrofedigaeth go annisgwyliadwy. Edrydd Mr. Hugh Hughes (Beulah) fymryn o hanesyn am dano, a ddengys ei ddull cyffredin o gymeryd pethau. Digwyddodd iddo ar un tro gael ei ddewis i ddwy swydd ar unwaith, sef yn gynrychiolydd i'r cyfarfod ysgolion ac yn arolygwr yr ysgol. Nid oedd modd cyflawni'r ddwy, a gwrthododd yntau y swydd o gynrychiolydd. Yn y cyfarfod athrawon, dyna frawd â dawn bigog yn gwneud ymholiad,-Yr hoffai efe wybod pam yr oedd Robert Roberts yn derbyn y swydd o arolygwr yn hytrach na'r swydd o gynrychiolydd? Cododd yntau yn ei ddull mwyaf hamddenol, a thraethai yn ei ddull mwyaf tawel, mai am fod y naill swydd yn fwy anrhydeddus na'r llall. Yr oedd y dull yma oedd yn eiddo iddo, yn ei ffordd ef o fyned drwy'r peth, yn un tra effeithiol. Nid oedd teimlad yn eraill, neu hwyl mewn pregethwr, yn ymddangos yn cael nemor graff arno; ond yr oedd yn edmygydd trwyadl ar dreiddgarwch a disgleirni meddwl. Cerddodd i Frynrodyn i glywed darlith David Charles Davies ar y Beibl a Natur, a dywedai ei brofiad wrth ei gwrando ar ol hynny, sef ei fod ar y pryd braidd yn meddwl mai gwrando ar y duwiau yn rhith dynion yr ydoedd. Edrydd Mrs. Jane Owen (Stryd Garnons) am dano yn dweyd ei brofiad yn ddyn go ieuanc, sef y caffai efe ei hun weithiau wrth ddarllen yr Efengylau yn teithio gwlad Canaan gyda'r Iesu a'r disgyblion yn gynefin megys pe yn ei wlad ei hun. Gallai ddweyd sylw o'r fath gan roi arbenigrwydd ar y peth.
Mehefin 12, 1880, y bu farw Robert Lewis, heb fod yn llawn 61 oed, wedi bod yn aelod yma er 1859, ac yn pregethu hyd o fewn rhyw flwyddyn neu ddwy i'r diwedd. Bu yn lletya am rai blynyddoedd gyda Robert Thomas (Llidiardau), pan y preswyliai efe yn Ffestiniog, a chafodd cofiannydd Robert Thomas gryn lawer o'r defnyddiau ganddo ef. Yr oedd yn wr dymunol, tyner dros ben, gyda gwên garedig, lac, heb ddigon o'r gwenithfaen yn ei natur. Fel y tynnai at ei derfyn yr oedd yn achos o ofid iddo na wnaeth nemor mewn cymhar-