iaeth gyda chrefydd y blynyddoedd diweddaf o'i oes. Ni feddai ar ddawn pregethu, er yr ystyrrid fod ganddo eithaf mater. Cerddor ydoedd o ran tymer a dawn a diwylliant, ac y mae iddo le pwysfawr ynglyn â chaniadaeth ei oes, ac yn enwedig yn Engedi, fel y ceir crybwyll eto.
Yn 1881 gwnawd yr ystafell dan y capel yn fwy cyfleus ac atgyweiriwyd y capel ar draul o £340 10s. Yn y cyfamser fe gynhelid y moddion yn y Guild Hall. Mehefin 14, 1882, penderfynu codi achos yn Henwalia.
Medi 16, 1883, bu John Jones y blaenor farw, yn 66 oed, ac yn y swydd yma er 1856, a chyn hynny yn Jerusalem (Bethesda). Brodor o Daliesin, sir Aberteifi. Arhosodd cydymdeimlad dirgelaidd rhyngddo â'r Deheudir a phobl y Deheudir am weddill ei oes. Daeth i Gaernarvon ynglyn â'i alwedigaeth o ffeltiwr yn 17 oed, a theimlodd bethau dwys dan weinidogaeth Dafydd Jones. Fe fywiogai dan bob cyfeiriad at enw Dafydd Jones byth wedi hynny, a byddai ar adegau yn adrodd ei ddywediadau. Symudodd i Engedi ar ei agoriad yn 1842, ond bu ym Methesda yn ystod 1845-56. Bu i Morris Jones "yr hen broffwyd," a'i frawd, John Jones y blaenor, le mawr a chynes yn ei feddwl fyth ar ol hynny. Ystyriai efe John Jones yn fwy a choethach dyn na Morris Jones, ac yr oedd ganddo edmygedd diderfyn braidd tuag ato. Fe lanwodd le mawr yn Engedi am dros chwarter canrif. Daeth yma y flwyddyn y bu farw Robert Evans, ac i fesur mawr fe gymerodd ei le ef yn yr eglwys. Nid oedd ei gylch o'r tuallan i'r eglwys mor eang â'r eiddo Robert Evans, na dim yn debyg; ond o fewn yr eglwys fe allesid ei gymharu âg ef ar rai ystyriaethau. Yr oedd dylanwad Robert Evans yn fwy llethol, a chanddo lawer o bleidwyr wedi ymddiofrydu i'w ddilyn, yr hyn nad oedd gan John Jones yr un fath yn hollol. Arweinydd oedd Robert Evans yn fwy, ond yr oedd John Jones yn ddylanwad mewn ffordd briodol iddo'i hun yn ddim llai nag yntau. Heblaw y daeth yn ben blaenor am rai blynyddoedd, efe oedd y cyhoeddwr ac arweinydd y gân am flynyddoedd eraill. Ond nid yw dywedyd hynny yn egluro natur ei ddylanwad ef ychwaith. Dylanwad oedd hwnnw yn treiddio drwy bob cylch ac i'w deimlo ar bob pryd a chan bawb, er yn ddiau gan rai yn fwy na'i gilydd. Nid damwain ydoedd iddo fod yn Ddeheuwr. Fe newidiodd acen y Deheudir yn o lwyr am eiddo'r Gogledd, ond