Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cadwodd nodwedd y Deheudir yn o lwyr. Dyn agored, brwd, siriol ydoedd, yn agored weithiau i ddywedyd rhywbeth yn rhy fyrbwyll, ond yn wastad braidd yn gwasgar dylanwad iachusol, mwynhaol. Ar dro weithiau, gyda rhyw bwnc yn dwyn perthynas ag amgylchiadau allanol, neu drefniadau, fe godai i siarad gymaint a theirgwaith mewn seiat fawr, fel ag yr ydoedd Engedi y pryd hwnnw. Eithr y brwdaniaeth hwn, wedi'r cwbl, oedd sail ei ragoriaeth arbennig ef. Mewn erthygl goffadwriaethol iddo yn y Goleuad, fe ddywedir iddo gael ei eni yn y gwanwyn, ac mai tymor gwanwyn fu ei fywyd. Fel arweinydd y gân medrai ddeffro ysbryd canu, ond yr oedd yn fwy fel cyhoeddwr na chanwr, a medrai dynnu sylw pawb at y pethau y mynnai ef roi pwys arnynt, heb ymdroi gyda hwy, ond drwy edrychiad agored, siriol, ac awch ar y llais gyda'r pethau hynny. Deuai hynny i'r amlwg ynddo yn bennaf dim wrth gyhoeddi y ddau wr dieithr o'r Deheudir," a ddeuai drwy'r wlad y pryd hwnnw bob yn awr ac eilwaith. Fe deimlid eu bod hwy'n ddau, ac hefyd, yn arbennig, mai dau o'r Deheudir oeddynt. Wrth wneud yr hysbysiad hwnnw fe edrychai i lawr ac i fyny, fel un a wyddai y mwynheid clywed y peth gan y gynulleidfa yn gymaint ag y mwynheid ei ddweyd ganddo yntau. A safai rai eiliadau ar ol dweyd, i fwynhau sirioldeb yr holl gynulleidfa. Eithaf tebyg fod yno feirniaid oerion yn gwrando, ond ni wyddai mo'r ieuainc a'r sawl oedd hoff o'r newydd a'r dieithr ddim byd am danynt hwy. A'r hyn ydoedd efe wrth gyhoeddi'r "ddau wr dieithr o'r Deheudir," dyna ydoedd efe i fesur helaeth gyda phob gorchwyl, ac yn enwedig gyda holl waith yr eglwys. Dywed yr ysgrifennydd y cyfeiriwyd ato, pe wedi rhoi ei fryd ar hynny y gallasai, fe ddichon, fod wedi casglu cyfoeth, ond mai ei fryd ef yn hytrach oedd bod yn ddefnyddiol. Ac, mewn gwirionedd, yr eglwys oedd ei weithdy. Ni esgeulusodd ofalu am ei dylwyth, ond fe deimlai yn pwyso arno ymddiriedaeth uwch ac eangach. Yr eglwys oedd ei deulu, a'i deulu yn rhan o'r eglwys. Bu'n ffyddlon yn yr holl dŷ, llanwodd bob cylch, a hynny gydag ymroddiad llwyr a chysondeb difwlch. Ei briodoledd ydoedd y tynnai ei bresenoldeb sylw. Gwyddid ei fod ef yno. Gwylid ef yn gwrando, a gwrandawr awchus ydoedd agos bob tro. Yn ei flynyddoedd olaf, fe fyddai rhywbeth yn ymddangos fel yn pwyso ar ei feddwl weithiau, ac yn atal y gwrando awchus,