disgwylgar. Ac yr oedd iddo ef fod felly yn rhwystr i eraill wrando fel y mynasent. Rhyngddo ef a'r pregethwr y rhennid. y sylw. Rhoe ebwch gyda sylw pwysig, codai ei ben yn uwch, neu troai gyda gwên foddhaus at yr hen Richard Jones, neu at Richard, Owen ac Evan Jones gyda'i gilydd ar ei ochr dde; ac yna fe fyddai'r sylw wedi cael ei lawn effaith rhwng y pregethwr ac yntau. Diau fod yno rai na sylwent hyd yn oed ar John Jones y blaenor, ond pwy gymerai sylw ohonynt hwy? Yn y seiat, os byddai yn y cynhulliad o gant a hanner neu ragor fachgen ieuanc adref am dro, ym mha gongl bynnag o lawr y capel y digwyddai fod, byddai John Jones wedi ei lygadu, a rhoe gyfle iddo i ddiweddu'r seiat. Y mae Mr. Hugh Hughes yn coffa sylw Mr. William Jones y blaenor, wrth adael Engedi am ysbaid yn ddiweddar, sef nad anghofiai efe byth mo'r noson y daeth gyntaf i Engedi, pryd y rhoes John Jones ei law iddo. Gwyddai John Jones sut i ysgwyd llaw, mewn amgylchiad o'r fath, yn well nag un o gant. A pha bryd bynnag y cyfarfu â gwrandawr heb fod yn aelod, os ceid peth ymddiddan go rydd, fe fyddai yno gymell cyn y diwedd i wneud proffes, a delid at hynny hyd nes llwyddid, neu i angeu oddiweddyd y cymhellydd neu'r hwn a gymhellid. Dywed yr ysgrifennydd crybwylledig am dano nad yw'n honni ei fod ef yn fawr, ac mai ei nodwedd oedd nid y mawr, ond y da. Feallai hynny, ac feallai, hefyd, nad oedd efe ym mhob ystyr yn nheimlad pawb yr hyn ydoedd yn nheimlad rhai, a'r rhan fwyaf, a'r rhan fwyaf o lawer. Pan anwyd plentyn John Foster, ei ddywediad ef ydoedd nad eiddunai iddo fod yn fawr, ond yn unig yn dda, ac mai o ddiffyg y da yr oedd y byd yn dioddef a than felltith. Ac yn amser John Jones nid oedd Engedi heb ddyn da yn yr ystyr a fuasai'n boddloni eidduniad John Foster i'w gyntaf-anedig. Nid rhyw gyffyrddiad o ysbrydolrwydd aruchel oedd ei nodwedd, a hwnnw, fel y gwelir ef weithiau, yn dod i'r golwg yn awr a phryd arall mewn modd a syfrdanai bob teimlad; ond daioni cyson, cartrefol, agos atom, hawdd nesu ato, bob amser i ddibynnu arno, a hwnnw'n ymwthio'n ddiymdrech, ond hyd eithaf ei allu, i bob cilfach ar lannau bywyd. (Goleuad, 1883, Medi 29, t. 9.)
Yn 1884 dewiswyd yn flaenoriaid, John Jones y fferyllydd a David Jones. Ym Mai, 1886, fe ymgymerodd John Thomas