Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES METHODISTIAETH ARFON.


CAERNARVON A'R CYLCH.


ARWEINIOL.[1]

YSTYRRIR yr enw Caernarvon yn un o'r rhai tlysaf o ran sain ymhlith enwau lleoedd. Dodir y v Seisnig yn lle'r f Gymreig yn yr enw, fel y gwna'r beirdd yn eu henwau hwy, yn un peth am yr ystyrrir ef yn glysach felly. Rhed llinell yr enw ymlaen oddi wrth y brif lythyren yn wastad-lefn fel milwyr mewn rhenc. Ac nid llai tlws na'i henw yw gosodiad y dref ynghanol swyn a rhamantedd natur. Y mae wedi ei dodi wrth aber yr afon Saint, rhwng y Saint a'r ffrwd Cadnant neu afon Felin y dref, er fod y ffrwd honno bellach yn rhedeg o'r golwg wrth fyned drwy ganol y dref fel y mae'n bresennol. Y mae'r afon Fenai yn ei man lletaf gyferbyn a'r dref, ac o'r cei fe edrychir ar hyd yr afon hyd at y bau, a chyda'r môr agored ymlaen y mae'n olygfa hardd, amrywiol, yn enwedig at adeg machlud haul. Y mae llun y coed ar y naill ochr i'r aber, a Thwr Eryr ar yr ochr arall, fel y gwelir hwy yn y dwfr gwyrdd, llonydd, ynghyda llun y gwylanod yn ymdroelli oddiarnodd, ac fel yn camgymeryd llun y nef am y nef ei hun, yn un o'r pethau mwyaf cyfareddol mewn golygfa. Fe barodd edrych ar y lluniau hyn yn y dwfr, ar ddiwrnod tawel, braf, i'r Parch. Evan Jones sylwi wrth ei gydymaith ar y pryd ar gywreinrwydd anhraethol natur. Y mae cyfoeth dirfawr yn y golygfeydd o amgylch y dref, fel y gwelir hwy o'r cei, wrth yr aber, wrth lannau'r Fenai, o dyrau'r castell, o ben Twtil, o Goed Alun,

  1. Caernarvon, P. B. Williams, 1821. Sir a thre Caernarvon, John Wynne, 1861. Old Karnarvon, W. H. Jones. Topographical Dictionary of Wales, S. Lewis, ail arg., 1842. Geirlyfr Owen Williams y Waunfawr. Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu, 1857. Y Nelson, 1890-7, cylchgrawn a ddygid allan gan M. T. Morris mewn cysylltiad â'i fasnach. Papurau trefol yng ngofal Mr. R. O. Roberts. Dyddlyfr David Griffiths, athro yn ysgol gen- edlaethol y Bontnewydd, am 1857-60. Tref Caernarvon tua 1800, Traeth- odydd, 1905, t. 226. Caernarvon Lenyddol Gynt, Alafon, Geninen Gwyl Dewi, 1904, t. 47. Caernarvon y ddeunawfed ganrif, Anthropos, Geninen, 1905, t. 12. Oriel Atgof, Anthropos, Geninen Gwyl Dewi, 1914, t. 18.