Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Caeau bach a Phenbrynmawr, a mannau eraill. Fe geir golwg ardderchog o ben Twtil ar fynyddoedd yr Eryri, yn un rhes hirfaith, gadwynog, amlweddog, wrth oleu dydd yn rhoi argraff o arucheledd maith, ac wrth oleu lloer yn yr hwyrnos. serenog, argraff o dawelwch aruthr; a phan y cymerir i fewn i'r olygfa y castell gerllaw, a chysgod Coed Alun ar y dwfr, a'r Fenai hefyd a'r bau, yna y mae'r argraff, ar ambell dymer ar y meddwl, yn cynghaneddu âg ambell awr euraidd neu awr arianaidd yn natur, yn un o gyfaredd annaearol. Heb drosglwyddo'r gyfaredd honno yn deg i'w eiriau, fe ganodd bachgen a anwyd yn y dref fel hyn am yr olygfa:

Mor fwyn, ym mro fy annedd,
Yw'r mis hwn a'i rymus hedd!
Cyrdyddog gorau diddan,
Ar faes a geir fis y gân.
Y ffrwd a sibrwd ei sain
Ar y cerryg gro cywrain;
Ymolwyno mawl ennyd,
Ar flaen nant, mae'r felin ŷd;[1]
Tyllog gaer yw'r castell cu,
Uwch bonedd, yn chwibanu;
I'w hynt swn gwynt sy'n gantor,
A seinio mwyn sy'n y môr.
O lawr y werdd ddôl a'r wig
Ac o'r meusydd ceir miwsig
A braint hardd yw bryniau têg
Twyn y werthyd, tan wartheg
Ond y mynydd sydd o'i sang
I'r wen awyr yn eang ..
Man hyn mae dernyn o dir
Cu'n ei fodd, lle canfyddir
Dyfnder ac uchder gwychdod.
Fwy na rhif o fewn y rhôd.
Mae'r olwg mor ehelaeth,
A'r pyncio'n ffrydio mor ffraeth;
Mae'r bêr rodfa mor brydferth,
A haul nawn yn ei lawn nerth;
Mae y llawn-fyd meillion-fawr
Dan wên fwyn a dyn yn fawr;
A phob rhan o'r cyfan cu,
Oll yn iach i'n llonychu;
Nis gall bardd, pe'n brifardd bro,
Hyd i'r lan eu darlunio:—
Maint llai y tynnai at ol
Nef seirian anfesurol.

  1. Melin y dref gynt ar y Cadnant.