Diau i'r castell adael ei argraff ar lawer meddwl, wrth edrych arno yn ymestyn ac yn ymgau ac yn ymwau drwy ei gilydd, fel y canfyddir ef o wahanol gyfeiriadau, ac ar wahanol dymorau a phrydiau. Y mae arlunydd a fagwyd yn y dref er yn ieuanc, sef Mr. S. Maurice Jones, wedi cyfleu ei wahanol ymddanghosiadau drwy gyfrwng cryn liaws o wahanol arluniau. Y mae ei arlun ohono wrth oleu'r lloer, yn enwedig, yn cyfleu syniad newydd am ei fawreddusrwydd. Ymhlith eraill, fe dynnwyd arlun ohono gan Turner, mewn dull nodweddiadol, gan gyfleu syniad cwbl newydd i'r meddwl am dano. Bu'r Dr. Samuel Johnson yma yn 1774, a'i sylw ef arno ydoedd: "Ni feddyliais fod y fath adeiladau: aeth tuhwnt i'm. syniadau." (A Journey into North Wales, 1816, t. 106.) I'r meddwl paratoedig mae'r argraff yn un anarferol. Bu Fferyllfardd yn y dref yn brentis, a dyma'r argraff arno ef:
Islaw braich cesail y bryn
Hen gastell llwydfrig estyn
Ei fysedd didwrf oesawl,
A'i fri gynt rhyngwyf a'r gwawl,
Mewn llais taw, ac etaw c'oedd,
Yn siarad hen amseroedd.
A dyma enghraifft fechan arall yn dangos y modd y cysyllta'r castell yr oesau wrth yr olygfa:
Ac ar un twr, cywraint yw
Y rhuddiog Eryr heddyw.
Eithaf rhwym yw nyth y frân,
Ar dyrau lle bu'r darian.
Ac am y môr, hefyd, a'r llongau hwyliau, fel y gwelid hwy'n amlach gynt, a'r awelon yn eu bolio allan, y dywed yr un bachgen ag y cyfeiriwyd ato o'r blaen:
Mwyned i'm, yn ei dymor,
Is gwawl maith, yw sigl y môr
Heinif lengoedd nawf longau,
A dawns sydd yn cydnesau;
A llengoedd a ollyngir,
I'w llon daith allan o dir.
Banerog a hwyliog ynt
Mawreddog yw'r môr iddynt.
Del iawn yw'r cychod pysgota dan eu hwyliau, oedd amlach hwythau gynt, debygir; a thlws dros ben yr yachts, sydd