hwythau'n anamlach; a mawreddus yr olwg arnynt yr hen longau hwyliau mawrion gynt, ac yn deffro meddyliau anturus ym mynwesau lliaws o hogiau'r dref yn yr olwg arnynt yn wynebu'r mór eang â'u nod ar y porthladdoedd prydferth yng ngwledydd yr haf. Fe deimlid serchowgrwydd neilltuol gynt. tuag at y capteniaid llongau, ac enynnid dyddordeb neilltuol ynddynt, yn enwedig yn y rhai ohonynt a gymerai ran yn y moddion cyhoeddus. Yr oeddynt yn ddynion wedi wynebu peryglon, wedi gweled rhyfeddodau, wedi sefyll yn wyneb temtasiynau. Fe geir engraifft o'r hoffter o'r capten llong yn y modd mae Mr. David Jones yn enwi y naill gapten ar ol y llall o blith arwyr ei ieuenctid yn eglwys Engedi. Y mae lleihad. y llongau wedi lleihau y teimlad. Yr oedd brodor o'r dref, hyd yn ddiweddar, yn gapten un o'r llongau mwyaf ar foroedd y byd heddyw. Onid gresyn colli'r "breath of ozone" o'r cyfarfod gweddi a'r seiat?
Golygfa effrous ydyw'r môr wedi bod i hogiau'r dref ar adeg pen llanw, pan y cyfyd ei donnau'n uchel ac y teifl y diferion trochionnog dros y cei, ac y llunia'r haul yntau am ambell darawiad amrant gwynfydig fwa ysblennydd drostynt. Yn gwta y cyfleir yr argraff o ddirgelwch yma:
Ac iachus fawreddus rodd,
Yw'r tonnawg fôr o tanodd :
Er mai blwng a ffrom yw bloedd
Twrf ei gynnwrf i gannoedd,
Poerwr hallt yn puro'r hin,
Yw y gorwyllt fôr gerwin.
Nid heb eu dylanwad ychwaith y bu ehediaid yr awyr, brain Coed Alun, y Penrhos, a'r coed gynt gyferbyn a'r gwesty brenhinol; a'r colomennod dieithr, clysion, gyda'u grŵn isel yn y colomendy gynt o dan y coed hynny; a'r paunod gynt a rodiennai o amgylch y gwesty, ag y byddai eu hysgrech hirllais yn glywadwy ar brydiau hyd at Ben deitsh ac ymhellach; a chawciod y castell, onid oeddynt amlach gynt? ac ystlum y nôs; y gwylanod, hefyd, a'r bili dowcan ar y bwi gyda'i adenydd yn agored neu ynte yn nofio ar wyneb y dwfr, yna'n plymio'r dyfnder, yn codi'r leden neu'r yslywen o'r gwaelod, yn eu cnoi'n hamddenol, gan eu tynnu i fewn i'w gylfin. O'r rhain i gyd y paunod yn unig a gipiodd crebwyll Robyn Ddu