Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawn, ac mewn meddwl craff, llawn synnwyr, er rywfaint yn gyfrwys. Cafodd well manteision addysg na'r cyffredin o ysgolfeistriaid ei gyfnod ef, a dringodd yn uwch yn ei swydd. Meddai ar bob cymhwyster i'w wneud yn llwyddiant fel ysgolfeistr, a gwelid yr un cymhwysterau ynddo fel blaenor, gyda'r un llwyddiant. Meddai ar gynneddf fawr. Yr oedd yn awdwr amryw erthyglau yn y Gwyddoniadur, ac efe oedd awdwr yr Athrawes o Ddifrif, sef cofiant ei wraig gyntaf. Efe oedd cyhoeddwr y Cenhadon Hedd, sef y lluniau o brif bregethwyr y Corff yn 1857, y cyntaf o'r fath a'r goreu. Dengys y llen-lluniau hynny yn eithaf deg ei feddwl trefnus, ei chwaeth, ei graffter, ei gyfrwystra. Efe oedd yr arweinydd naturiol ym mhwyllgor y blaenoriaid. Ni fu yr un yn Engedi na'r dref i'w gystadlu âg ef ar bob golwg fel gwr pwyllgor. Meddai ar bob cymhwyster fel arweinydd yn y cylch yma, craffter mewn pethau amgylchiadol, craffter i adnabod dynion, dawn i draethu ei feddwl, pwyll, gochelgarwch, callineb, cyfrwystra. Y mae'r farn hon am dano fel gwr pwyllgor yn ffrwyth ym- ddiddan yn ei gylch yn y cysylltiad hwnnw à John Jones y fferyllydd. Yr oedd ei ddawn fel siaradwr yn ei amser goreu yn ogyfartal â'i ddawn fel arweinydd pwyllgor y blaenoriaid. Yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yma yr oedd ei gyfarchiadau yn seiat nos Sul yn enwedig â swyn odiaeth ynddynt. Meddai ar bresenoldeb da, yn ddyn lled dal, llawn, gyda wyneb llawn â gwrid iach arno y pryd hwnnw, prydwedd cymesur, mynegiant deallus, synhwyrol, dymunol. Safai y pryd hwnnw yn syth yn ei le, gyda hunan-feddiant perffaith, a rhwyddineb dawn, ac ystwythter a pherseinedd yn ei lais clochaidd. Dawn y Deheudir: dawn Penfro oedd yma. Yr oedd yn hyfryd gwrando ar y llais ei hun, un funud yn toncio fel cloch arian, a'r funud nesaf, wrth orffen gyda'r pwnc hwnnw, a chyn dechre codi at y pwnc arall, yn meddalu ac yn ymlithro fel swyn hyd droadau dirgelaidd y glust. Yr oedd, dros ben hynny, ryw oslef yn y llais yn amlygiad o nodweddiad uwchraddol. Ac yn ben ar y cwbl yr oedd yno ireidd-dra ysbryd. Bu am ryw ysbaid yn arfer dyfynnu o ryw gylchgrawn Saesneg ag yr oedd yn amlwg ei fod yn cael maeth ysbrydol ynddo. Aeth ar ol hyn yn llai bywiog ei ysbryd, er yn meddu ar yr un profiad, ond eto mewn modd llai amlwg. Ac yn ei flynyddoedd olaf i gyd yr oedd anhwylder yn llesteirio bywiog-