Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd ei ysbryd, er parhau ohono yn ffyddlon a defnyddiol a dylanwadol. Fe grybwyllir eto am ei waith pwysig ynglyn â'r ysgol i'r tlodion yn yr ysgoldy dan y capel. Nid oedd efe yn gyfartal â Robert Roberts mewn treiddgarwch meddwl, nac â John Jones mewn brwdaniaeth serchog, nac â Robert Evans mewn sel ymroddgar. Eto meddai ar radd dda o'r pethau oedd ym mhob un ohonynt hwy, ac ar radd helaethach o rai pethau na feddiannid gan neb un ohonynt hwy. Ar y cyfan, fel allesid meddwl am ei ddylanwad wedi bod yn fwy nag ydoedd, ac yn fwy nag eiddo neb arall yn yr eglwys. Er ei fod yn flaenor ffyddlon a gweithgar, yn meddu ar amrywiaeth o ddoniau a chyrhaeddiadau, yn wr o urddas a dylanwad, ac o gymeriad dilychwin, eto rhywbeth oedd yn Robert Evans yr oedd ganddo ef leiaf o hono, sef ryw ynni tanbaid neu sel ysol, llwyr ymroddedig, a hynny a barodd na chymerodd efe mo'r lle blaenaf i gyd ymhlith holl flaenoriaid y dref. (Goleuad, 1886 Mawrth 20, t. 12, gan David Jones. Edrycher Twrgwyn.)

Hydref 5, 1886, penodi Evan Jones, Nath Roberts, Owen Jones, John Williams i ofalu am yr achos yn Beulah. Gorffennaf, 1887, penderfynu sefydlu eglwys yn Beulah, ac i Engedi gymeryd £373 6s. 3c. o'r ddyled. Yng nghofnodion Cyfarfod Misol Rhagfyr 14, fe ddywedir fod Engedi yn ymgymeryd â bod yn gyfrifol am £400. Dyna'r penderfyniad diweddarach. Yr un flwyddyn, penderfynu cynnal seiat blant ar wahan.

Mehefin 6, 1888, y Parch. Evan Roberts yn rhoi gofal yr eglwys i fyny, wedi bod y bugail cydnabyddedig cyntaf arni am 13 o flynyddoedd, gan dderbyn galwad oddiyma i Ddyffryn. Ardudwy. Cyn iddo ef ddod yma amheuid gan liaws a allasai gweinidog sefydlog ddal ei dir fel pregethwr. Cyflawnodd efe'r disgwyliadau uchaf. Yn ei amser ef, yn 1878, fe ail-gychwynnwyd y gymdeithas lenyddol. Arweiniodd gyda chlirio'r ddyled, gan fod ei hun yr haelaf o bawb. Rhoes ynni newydd yn rhai o ddosbarthiadau canol yr wythnos. Ar ei ymadawiad, cyflwynwyd iddo amryw anrhegion mewn cyfarfod lluosog iawn, Mehefin 11.

Medi 16, 1888, rhoi galwad i'r Dr. John Hughes. Ionawr 14, 1889, cynhaliwyd y cyfarfod croesawu, pryd yr oedd ymhlith eraill Owen Thomas a Herber Evans yn bresennol. (Goleuad, 1889, Ionawr 24, t. 4.)