Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwefror 14, 1889, bu farw Abraham Bywater, yn flaenor yma er 1878. Yr ydoedd mewn oedran yn dod yma. Gwr tawel ymhob ystyr. Y gair am dano yng nghofnodion y Cyfarfod Misol ydyw: "Ffyddlon am nifer maith o flynyddoedd, a nodedig am ei dduwioldeb."

Yn 1890 atgyweiriwyd y capel a rhowd organ ynddo. Gwnawd addurnwaith anarferol ar y nenfwd, fel y cydnabyddid, ebe Mr. David Jones, ei fod y capel harddaf o'r tu fewn a feddai'r Corff. Awyrwyd y capel ar gynllun newydd. Rhowd rails haearn newydd o'i flaen oddiallan. Gwnawd gwelliantau yn yr ystafelloedd dan y capel. Tachwedd 20 cafwyd yr agoriad ynglyn â'r organ. Penodwyd Miss Thomas (Bryngwyn) yn chwareuydd. Traul yr organ, £620. Yr holl dreuliau, £2,315.

Yn 1892 dewiswyd yn flaenoriaid Robert Williams a William Jones. Y flwyddyn hon cynhaliwyd cyfarfod y Jiwbili, Gorffennaf 24-5. Sul a Llun pregethwyd gan y Prifathro Prys a'r Dr. Hugh Jones Nerpwl. Nos Lun rhowd hanes dechreuad yr achos yng Nghaernarvon gan W. P. Williams a'r hanes yn Engedi gan Owen Roberts. Rhowd, hefyd, bregeth gan y Prifathro. (Goleuad, 1892, Awst 11, t. 12.).

Yn 1893 bu farw Griffith Williams, yn flaenor er 1877. Yn wr o barch ac ymddiried. Yn siaradwr rhydd, synhwyrol. Gwasanaethodd yr achos yn ffyddlon ac effeithiol. Gwnawd coffa am dano yng Nghyfarfod Misol Awst 14. Yn 1893 y dechreuodd John Garnons Owen bregethu. Yn 1899 symudodd i Lanarmon yn Iâl.

Hydref 23, 1893, bu farw'r Dr. John Hughes yn 66 oed, ac wedi bod yn fugail yr eglwys prin bum mlynedd. Ceir y sylw yma yng nghofnodion y Cyfarfod Misol: "Cyfarfod o brudd-der mawr oedd y cyfarfod hwn, am fod Dr. Hughes wedi ymadaw â ni er y Cyfarfod Misol diweddaf. . . . . Cymerai ei le fel tywysog yn ein plith. Edrychem i fyny ato fel gwr o gyngor, fel arweinydd medrus, doeth a diogel, fel perchen meddwl cryf, gwybodaeth eang, a dawn neilltuol i gyfleu ei feddwl mewn ysgrifeniadau, ac fel un a fyddai drwy ei weinidogaeth gref a disglair yn rhoddi urddas nid yn unig ar bulpud y cyfundeb yn Arfon, ond ar bulpud Cymru oll." Fe roes argraff nodedig ar Gymru yn ei amser. Yr oedd yn pregethu yng Nghymdeithasfa Llangeitho yn 1859, pryd y