gwrandewid arno gan Vicar Hughes Tregaron, un o brif ddynion yr Eglwys yng Nghymru yn y ganrif. Nodwyd ef allan y pryd hwnnw gan y Vicar fel prif bregethwr Cymru, barn y dywedir iddo ei choledd hyd y diwedd. (Lladmerydd, 1893, t. 360.) Adroddai ef ei hun wrth Alafon fod y Dr. Lewis Edwards yn rhyw ymddiddan yn ei nodi ef allan fel pregethwr mwyaf barddonol Cymru y pryd hwnnw. "Mi synnwch glywed," ebe fe wrth adrodd y peth. Diau y swnia y farn honno yn ddierth i ddarllenwyr yn unig o'i bregethau, ond ni swniai mor ddierth i rai o'i wrandawyr. Mewn sylw coffadwriaethol arno galwai Thomas Charles Edwards ef y gwr blaenaf yn y cyfundeb mewn amseroedd diweddar. Mewn rhai mannau yn unig y mae ei ysgrifeniadau yn cynnal i fyny y syniad uchel cyffredinol am ei alluoedd, canys fe edrychid arno nid yn unig yn berchen meddwl cryf, a diwylliant, ond yn feistr, hefyd, ar iaith lawn, ddisgrifiadol, ardderchog. Yn ei ddisgrifiad o Gyfarfod Misol Môn yng nghofiant William Roberts Amlwch, fe'i gwelir ar ei oreu fel ysgrifennydd. Pe buasai ei bregethau wedi eu cymeryd o'i enau ef ei hun ar ol iddynt lawn addfedu yn ei feddwl hwy darllenasent yn well o gryn lawer yn ddiau. Eithr, wrth ystyried, fe ganfyddir fod ei ragoriaeth arbennig yntau yn gorwedd yn gymaint a dim mewn presenoldeb, pwyslais, ireidd-dra ysbryd, urddas mewn ysgogiad ac yn nhôn y llais ac yn netholiad y materion a'r geiriau. Fe gyfrifid ei ddyfodiad yma gan yr eglwys ei hun yn anrhydedd arni, a llanwodd yntau y disgwyliadau uchel. Fe gafodd gyfleustra go deg i roi ei gallineb mawr mewn llawn arferiad, a rhwng ei gallineb a'i urddas personol, fe hwyliodd ymlaen rhwng trobwll a chreigiau yn ddiogel, dan lawn hwyliau, a chyda llawenydd ar fwrdd y llong. Eithr Dr. Hughes Nerpwl y pery efe i fod yn bennaf, er cyrraedd o'i rawd i'r pen rhwng hen gastell Caernarvon a hen eglwys Llanbeblig.
Mai 13, 1894, rhoi galwad i W. R. Jones (Goleufryn). Dechreuodd yntau ar ei waith yma heb gyfarfod croesawu, y Sul, Tachwedd 1. Hydref 22, 1895, dewis yn flaenoriaid W. J. Williams, J. J. Williams. Galwyd yn flaenor, H. J. Hughes, a ddaeth yma o'r Ceunant. Yn 1894 derbyniwyd Evan Evans i'r Cyfarfod Misol fel pregethwr. Symudodd oddiyma yn 1896 i Weston, Trefaldwyn. Yn 1899 symudodd y Parch. D. R. Griffith yma o Ryl.