Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ragflaenydd, ond llwyddai i wneud ei waith fel bugail yn effeithiol; ac yn y cymeriad yma yr oedd megys dau, gan fod ei briod. yn ddyfal a medrus tuhwnt i'r cyffredin mewn ymweliadau â'r gwahanol ddosbarthiadau yn y gynulleidfa, ac mewn rhai cylchoedd cyhoeddus, megys gyda dirwest. Ond megys y dywedwyd am eraill yn yr eglwys hon, felly am dano yntau, fe erys ei goffadwriaeth yn fwy arbennig ynglyn âg eglwysi eraill, a Chyfarfodydd Misol eraill. (Goleuad, 1898, Gorffennaf 20, t. 9, 10. Drysorfa, 1898, t. 363, 529; 1899, t. 92. Cymru, xv. 184.)

Mor hyfryd esgyn Pisgah oes—
A'r Bryn yn wyn dan wawl y Groes! (J. T. Job).

Yn 1899 rhowd galwad i'r Parch. Ellis James Jones, M.A., a chadarnhawyd yr alwad yng Nghyfarfod Misol Hydref. Daeth yma o Manchester.

Yn y bore y cynhelid yr ysgol ar y cyntaf. Dywed Dafydd Williams fod yr ysgol, ar ol ei chael yn y prynhawn, wedi cyn— yddu yn ddirfawr, a bod pob rhan o'r gwaith o hynny ymlaen wedi myned i wisgo gwedd gynyddol a hapus. Parhaodd dosbarth John Roberts y paentiwr o ddechreu'r achos hyd ddiwedd ei oes ef yn 1890, a bu am gyfnod o rai blynyddoedd, o leiaf, yn ddosbarth lluosog a phwysig o ddynion. Bu gwedd lewyrchus ar yr ysgol am gyfnod maith. Yr oedd y rhif y Sul olaf o 1873, gan gynnwys ysgol y seler, yn 622. Agorwyd ysgol Sul yn y seler i dlodion y gymdogaeth yn fuan ar ol agoriad y capel. Bu cangen fechan ohoni mewn ty yn Wesley Street am beth amser. Ar ddyfodiad John Edmunds i'r dref yn 1867 fe ddechreuodd weithio gyda'r ysgol hon, a gwnawd ef yn fuan yn arolygwr, a pharhaodd yn y swydd honno hyd. derfyn oes yn 1886, ac i'w arweiniad a'i ymdrechion ef yn bennaf y priodolir llwyddiant yr ysgol o'r pryd hwnnw ymlaen. Ionawr 1, 1886, cyflwynwyd iddo anerchiad yn cydnabod ei lafur diball gyda'r ysgol. (Goleuad, 1886, Ionawr 9, t. 10.) Dywed Mr. Hugh Hughes fod ol gwaith John Edmunds ar liaws yn y dref heddyw. Clywodd ef fechgyn yn y milisia, llongwyr, ac eraill yn cydnabod eu rhwymedigaeth iddo. Cyfnerthid ymdrechion John Edmunds yn fawr gan un fu'n ysgrifennydd yr ysgol am gryn ysbaid, sef J. D. Bryan, un o'r Brodyr Bryan yr Aifft. Yr ydoedd ef yn wr gweithgar a def-