nyddiol, a dangosodd yr ysbryd hwnnw'n arbennig ynglyn â'r ysgol hon.
Rhagfyr 13, 1893, penderfynwyd symud ysgol y seler i Marc Lane. Yr oeddid wedi dechre gwaith cenhadol ym Marc Lane cyn hynny. Dyma ddywed Mr. John Jones ar hynny: "Thos. Williams y saer, Hugh Jones a Robert Barma (Moriah) a gychwynnodd ym Marc Lane, mi gredaf mai yn 1857. Cynhelid ysgol yn yr awyr agored yn y cowrt o flaen. y tai. Yn y man cymerwyd ty i gynnal yr ysgol ynddo. Pan dorrodd diwygiad 1859 allan, fe gymerwyd y rhes tai, a thynwyd y gwahan-furiau i lawr, fel yr oedd yn ystafell hirfain. Credaf mai Hugh Pugh y Bank a Robert Williams Brunswick. Buildings, aelodau yn Castle Square, a drefnodd adeiladu ysgoldy yn 1877. Credaf yn sicr iddynt golli'r arian. Engedi oedd yn danfon "cyfeillion y bore" yno. Gweithiodd Mr. Pugh yn egniol iawn am lawer o flynyddoedd gyda'r achos ym Marc Lane. Deuai Robert Barma, Owen Williams Ty'n-llan a Mrs. Williams Penllyn o Foriah." Codwyd ysgoldy Siloh bach gan Moriah yn 1856, ond aelodau o Engedi wnelai fwyaf yno, a hwy yn bennaf fu'n sefydlu'r eglwys yn 1859. Bu Robert Evans, Capten Evan Roberts, Griffith Williams yr asiedydd, Thomas Williams Heol y Capel, yn ymroddgar gyda chychwyniad yr ysgol yn Siloh bach a Marc Lane. Brodyr o Engedi, ebe Mr. John Jones, a sefydlodd yr ysgol Sul yn y tloty.
Dyma adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Tachwedd 1. Ysgol drefnus a gweithgar, yn meddu swyddogion diwyd ac effro. Heb ond un arolygwr, gafaelai yr holl ysgol fawr hon yn ei gwaith mewn byrr amser. Yr athrawon i gyd. yn bresennol namyn un. Dosbarthiadau y plant yn rhy luosog, oddieithr i gynllun yr ysgol ddyddiol gael ei fabwysiadu. Darllen deallus ac atebion parod gan yr ieuenctid. Y rhai mewn oed yn gwneud ymdrech i gloddio i gyfoeth y gair. Y dosbarthiadau o rai mewn oed yn addurn i'r ysgol. Cyfrifon trefnus. Canu effeithiol. Seler Engedi. Hydref 25. Rhif, 109, tua 90 o'r nifer yn blant tlodion, amddifad o bob manteision crefyddol eraill. Addysg o'r fwyaf effeithiol. Yr ysgol i gyd yn ei lle cyn amser dechre. Yr ymddygiad yn ystod y gwasanaeth dechreuol yn ganmoladwy. Gafaelid ar unwaith yn y gwaith heb golli munud i'r diwedd. Arolygiad