(Druid), David Jones (Llys Arfon). Gadawodd y llafur hwn gyda'r canu ei ol ar y canu cynulleidfaol, a pharhaodd yr unrhyw lafur am flynyddoedd." Dewiswyd W. J. Williams yn arweinydd am bum mlynedd yn 1881, ail-ddewiswyd yn 1886, a pharhaodd yn y swydd dros ystod tymor yr hanes hwn. Sylw Mr. David Jones arno ydyw mai efe oedd y galluocaf fel cerddor a fu yn y dref.
Bu seiadau nodedig yn cael eu cynnal yn Engedi. Mynn Mr. John Jones (Druid) fod pobl dduwiolaf Moriah yn o lwyr wedi dod yma yn 1842, a dywed y byddai John Owen y marsiandwr coed, ac yntau'n aelod ym Moriah, heblaw cymeryd sêt yma, yn dod yn aml i'r seiat er mwyn y wledd a gaffai yma. Dywed Mr. John Jones y byddai Dafydd Jones yn od- iaethol gyda'r hen saint hyn. Am rai blynyddoedd, fel y crybwyllwyd, rhowd gwasanaeth gwerthfawr yn y ffordd hon gan Daniel Jones, Dafydd Davies yr exciseman a Dafydd Morris. A gwŷr yn meddu ar ddawn neilltuol yn y seiat oedd John Jones y pregethwr a Dafydd Williams. Feallai nad yw'n ormod dweyd fod arbenigrwydd neilltuol yn perthyn i seiadau. Engedi yn ystod, dyweder, y chwarter canrif cyntaf o'i hanes. Fe ysgrifennwyd cofnodion helaeth o'r seiadau hyn dros ysbaid, feallai, 30 mlynedd, gan Ellis Jones yr argraffydd, mab i'r geiriadurwr o'r un enw; ond fe'u llosgwyd gan berthynas, neu fe fuasent nid hwyrach yn gofnodiad cwbl arbennig o'r seiat yng Nghymru. Y mae gan Mr. David Jones rai briwsion o atgof. Yn yr hen gapel tuag 1865 yr oedd John Roberts Tai-hen yn pregethu ar y lleidr ar y groes, a chafodd oedfa effeithiol. Yn y seiat ddilynol yr oedd Dafydd Williams yn holi prof- iad. Aeth at y Capten John Evans St. Helen. "Wel, John Evans, be' sy ganddoch 'i?" "Wel," ebe'r Capten, "mi fuaswn yn leicio cael mwy o amser i wneud fy mhac na gafodd y lleidr ar y groes." Yr oedd yr ateb yn disgyn yn annisgwyliadwy, ac yn fwy effeithiol oddiwrth gapten llong, a chan y dywedwyd ef gyda theimlad, fe gynyrchodd argraff gofiadwy. Ymesgusodai Mr. David Jones am adrodd yn ei gylch ei hun. Eithr fe ddywed fod y Dr. Hughes yn pregethu yn oedfa'r bore yn y Sasiwn yng Nghae'r Friars ar yr awydd yn Nuw am achub pechadur gyda dylanwad neilltuol iawn. Danghosai fel nad oedd yr awydd ingol mewn proffwydi ac apostolion a gweision Duw drwy'r oesau am achubiaeth eu cyd-ddynion yn ddim ond