Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dafn yn ymyl y môr oedd yn Nuw. Ac yna fe dorrai y pregethwr allan ei hun yn yr olwg ar fawredd awydd y Duw mawr a chyndynrwydd mawr pechaduriaid, "O na redai'r Iorddonen i fy mhen-mi wylwn hi bob dafn!" Ac ebe fe ymhellach, "Gwell ganddo wneud pob peth gyda thi na'th ddamnio." Dyna oedfa fawr bywyd Mr. David Jones. Adroddai am dani yn y seiat, a'i brofiad ei hun wrth wrando, a dywed y torrodd John Jones y pregethwr allan i wylo. Bu son am y seiat honno. Dywed Mr. Jones yr aeth efe o'r pryd hwnnw allan i brofiad o ddealltwriaeth gwell nag o'r blaen ai' Dad Nefol.

Y mae gan Mr. John Jones engreifftiau o seiat brofiad. Dafydd Morris yn gofyn profiad Catrin Jones Chapel Street. "Be' sy gynoch chi heno, Catrin Jones." "Meddwl yr ydw'i ers dyddiau bellach am y wraig honno yn dweyd ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf." "O, felly'n wir, rhyfeddu yr ydachi yn ddiameu, fel finnau o'ch blaen chi ddegau o weithiau, at fawredd ei ffydd hi yntê?" "Nage wir, dotio ato fo yn tynnu ydw'i." "Be' 'dachi'n ddeud, Catrin Jones?" "Dotio ato fo yn tynnu. 'Doedd fawr o gamp i'w ffydd hi-cael honno yn y tynnu roedd hi." Dafydd Morris wedi cael y touch, ac yn dechre gwaeddi, "Glywchi, mhobol anwyl i? Y mae Catrin Jones wedi cael gafael ar rywbeth gwerth cnoi cil arno heno,-ydi reit siwr ichi. 'Does rhywbeth nobl yn yr hen grefydd yma,- Dotio ato fo yn tynnu!' Tynnwr heb ei fath ydyw hwn-'a dynnaf bawb ataf fy hun.' Y mae'r Pabyddion, druain, yn cadw rhyw lain o frethyn mewn glass case yn Rhufain yna, ac yn taeru mai darn o fantell sanctaidd y Gwaredwr ydyw. Nonsans i gyd! Cadwch 'i'ch hen regsyn bregus i chwi'ch hunain, y ffyliaid gwirion! Dyma odreu'r fantell yn llenwi'r lle yma heno yn ddi-ddowt i chi'dotio ato fo'n tynnu!' Closiwn ato, mhobol anwyl i!—mi wranta i y daw rhinwedd allan ohono ond inni gyffwrdd yn unig â'i hem hi. Mentrwch ato, mi fendiwn i gyd fel yr ydan ni yma!" Yr oedd Dafydd Jones ers meityn wedi codi ar ei draed, ac yn sefyll wrth y ddesc fach yn y sêt fawr, ac yn chwerthin ac yn wylo yr un pryd. Dro arall, Dafydd Jones yn holi Jinny Thomas. "Wel, Jinny Thomas, be' sy gynochi heno ar eich meddwl?" "Synnu a rhyfeddu rydw'i at yr Hen Lyfr yma, yn deud fy hanes mor dda wrtha'i." "Fydd o'n