deud wrthachi y'ch bod chi'n waeth na phobl eraill?" "Fydd o byth yn sôn wrtha'i am bobol eraill; neb ond y fo a finnau." "Fyddwchi'n digio wrtho fo am hynny, Jinny Thomas?" Digio! na fyddai'n wir, ond yr ydw'i rywsut yn myned yn ffondiach ohono fo bob dydd, welwchi." "Beth wedyn?" "O! yr ydwi'n methu'n lân a dygymod â'r marw yma." "Ofn sy arnochi?" "O! nagi'n wir, 'does arna'i ddim ofn; ddemnir mona'i'n siwr. Y mae o wedi cymeryd gormod o drafferth hefo mi—y mae o yn siwr o fy nghadw i. Ond methu dygymod â'r marw yna drwy'r cwbwl 'rydw'i." "Cymerwch gysur, Jinny Thomas:
Nid marw yw marw'r mâd,
Ond huno'n mhen dihoeniad,
Newid yw ar ben y daith,
I orffwys mewn gwlad berffaith.
Pa mor flin fydd brenin braw,
Addolaf dan ei ddwylaw
Y boen ferr ar ben a fydd
Yn awel y byd newydd.
O ryfedd, ar yr afon!
Wrth y Groes nid oes un donn.
O diolch! Dafydd Jones anwyl! y mae wedi troi yn oleu clir o dan y cwmwl. Ydi'n wir! diolch am hynny." Dro arall, Dafydd Jones yn holi Sian Huws, hen nain y Parch. J. E. Hughes. "'Does gen i ddim neilltuol ar fy meddwl heno; lled dywyll ydi hi arna'i heno." "Faint sydd er pan yr ydych gyda'r grefydd yma?" "Y mae dros drigain mlynedd." "Y mae'n debyg ei fod wedi deud wrthochi erbyn hyn be' mae of am wneud efo chi?" "Nag ydi, ddim wedi deud, ond yr ydw'i'n trustio ynddo y bydd o cystal a'i addewidion, reit siwr." "Wel, wedi bod yn i wasanaeth o am drigian mlynedd, ac heb ddweyd dim eto wrthochi—un gwael iawn ydi o!" Yr hen wreigan ar hynny yn neidio ar ei thraed, ac yn sefyll yn syth o flaen Dafydd Jones, gan edrych ym myw ei lygaid—Rhedeg ar fy Iesu anwyl i,—fedra'i mo'ch diodde chi! Dafydd Jones bach, wyddochi beth, fydda'i wiw iddo ddangos i wyneb i'w Dad hebddo'n ni!—a fedrai o ddim o ran hynny: Wele fi a'r plant ydi hi, onite?" "O! mi wela i y'ch bod chi'n meddwl cael mynd ato fo." "Na, nid meddwl yr ydw'i, yn reit siwr i chi." "Sut felly, Sian Huws?" "Wel, lle arall