Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr a i, Dafydd Jones anwyl. 'Dydw'i ddim ffit i fynd i unlle arall. 'Tasw nhw'n nhaflud i i waelod uffern, mi camolwn o ynghanol cythreuliaid! Deudwch air am dano, da chi. Mi fyddwchi'n deud yn dda am dano,—dowch, y mae o'n werth i chi i gamol o, ydi'n wir!" Dafydd Jones, wedi ei gyffwrdd i'r byw, yn cilio yn ol yn y sêt fawr, gyda gwên nefol ar ei wyneb, ac yn sychu'r gwlith oddiar ei lygaid â'i fys:—

Dyn dedwydd, dyn Duw ydyw;
A doed a ddel dedwydd yw,
Dedwydd ar gynnydd yw'r gwr
A gredo i'r Gwaredwr.

Dyma sylwadau Mr. John Jones ar y Gymdeithas Lenyddol: "Sefydlwyd hi yn fuan ar ol agor y capel. Yr oedd yma gymdeithas lewyrchus yn 1850—7, i mi fod yn gwybod. 'Y Famog' y gelwid y gymdeithas a'r bookies' y gelwid yr aelodau Byddai'r hen flaenoriaid yn rhoi pob cefnogaeth iddynt. Rhai o'r enwau yr wyf fi yn ei gofio: Evan Lloyd, Richard Davies, Henry Edwards, William Williams, Ellis Jones, John Roberts, John Thomas, William Owen, Lewis Jones, Richard Humphreys ieu., Robert Evans ieu. George Williams, y blaenor yn Siloh wedi hynny, oedd 'bardd y gymdeithas. Yr oedd y Parch. Evan Jones yn aelod ohoni yn 1856, y pryd hwnnw yn gysodydd yn swyddfa'r Herald. Yr oedd y gymdeithas yn llewyrchus iawn yn 1861, ar ol y diwygiad. Bu am flynyddoedd dan ofal Mr. Robert Lewis. Yr oedd yn dair adran, yn ddiwinyddol, yn llenyddol, yn gerddorol, fel y cynhelid hi ar dair noswaith yr wythnos. Cymerai Mr. William Williams y pregethwr ofal yr adran ddiwinyddol a'r lenyddol ar ol ei ddyfodiad yma yn 1865." Ar ol ail-gychwyn y gymdeithas yn 1878, bu presenoldeb Gwyneddon yn dra gwerthfawr yno, a deuai iddi yn rheolaidd.

Enwir fel ceidwaid y capel: Rhys Jones, Richard Jones, Richard Hughes, Thomas Edwards, John Parry.

Fe grynhoi'r yma sylwadau Mr. David Jones ar rai o'r brodyr a gofir ganddo. Gwnaeth Thomas Edwards y barbwr lawer o wasanaeth. Fe fu am rai blynyddoedd yn un o wylwyr y drysau yn yr hen gapel. Bu'n athro o'r fath ffyddlonaf, ac yn gynrychiolydd i'r Cyfarfod Ysgolion am flynyddoedd. Ni adawai i gyfle fyned heibio heb argymell dirwest. Yr oedd