yn gymeriad crefyddol iawn. [Yr oedd rhywbeth anarferol yn ei ymddanghosiad. Ei brydwedd, ei lygaid, ei wallt, ei gôb fawr o liw gwineu. Wyneb go lawn a chrwn, a golwg sefydlog, heb wên fyth arno. Rhoddai'r adroddiad o'r Cyfarfod Ysgol yn llawn iawn, gyda'r rhwyddineb mwyaf. Wrth siarad neu weddïo ni byddai arwydd o unrhyw gyffroad teimlad arno. Siaradai a gweddiai mewn iaith dda ac mewn modd trefnus. Elai o amgylch y maes ar y Sadyrnau i werthu'r papur newydd, ond ni chollai funud o amser mewn ymddiddan, ac ni chlywid oddiwrtho ddim cellwair. Elai ymlaen gyda'i orchwyl fel gwr difrif. Amhosibl atgofio am dano heb ryw argraff ar y meddwl o rywbeth heb fod yn rhyw gyffredin iawn.] Dau a gerddodd lawer gyda'i gilydd i'r moddion oedd William ac Owen Jones Tyddyn llwydyn. Er meithed eu ffordd, buont ymhlith y ffyddlonaf. Dau weddiwr cyhoeddus o'r hen stamp, a'r ddau yn rhoi lle mawr yn eu gweddiau i'r achos yn Engedi. Elai'r ddau i'r ysgol yn y tloty, a gwnaeth y ddau waith mawr yno. [Gwr tal, cymesur, oedd Owen Jones, a gwr byrr, cymesur oedd William Jones, ac fel y cerddai'r ddau ochr yn ochr tua'r morfa ar eu ffordd adref o'r capel, Sul a gwyl a gwaith, fe roddent ddelwedd ohonynt eu hunain ar y meddwl cynefin a'u gwylio nad el fyth yn angof. Ac y mae awyrgylch deneuedig o gysegredigaeth o amgylch y ddelwedd. William Jones fach oedd y doniolaf; Owen Jones fawr oedd y boneddigeiddiaf. Rhyw dôn ddoniol oedd gan William Jones yn ei sgwrs, yn ei brofiad, yn ei weddi. "Y mae o'n werth ei bwysau o aur, "ebe fe am y llyfr swllt mewn amlen ar y bwrdd o'i flaen, wrth y gwr dierth oedd newydd ddod i mewn i'r tŷ. Tôn y llais oedd yn gwneud y sylw yn darawiadol ac yn gofiadwy i fachgen deuddeg oed. Yn y seiat gyntaf ar ol gwaeledd maith, dacw Owen Jones, gyda'i benelin yn pwyso ar ddôr y sêt yn dweyd ei brofiad yn dawel, yn hyglyw i bawb oddiar ei eistedd, a chyda phawb yn astud, ddau gant o bobl feallai. Sonia am Vincent y person, a'r ymgom a gafas gydag ef yn y "Yr ydwi'n credu, yn wir, fod Mr. Vincent yn ddyn duwiol." John Jones y blaenor yn ymysgwyd ac yn gwenu, a'r gwirion ieuanc yn synnu wrth glywed y fath ganmol ar berson eglwys. Ah! beth sy'n gwneud profiad Owen Jones, er nad yw ond niwlen lwyd mewn atgof, yn beth cysegredig?] Thomas Williams, porthor y tloty, oedd gymeriad arbennig.
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/217
Gwedd