Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoe argraff ar rai prydiau nad oedd yn yr ysbryd goreu, er y credai pawb yn ei gywirdeb. Dywedai bethau mor blaen weithiau, nes y disgynnent fel tân ar groen ambell un. Cartrefol wrth orsedd gras. [John Jones y gweinidog yn ei holi, a Thomas Williams yn rhoi ar ddeall nad oedd adrodd profiad ddim i ymddiried ynddo, bod gormod twyll ar bob llaw i gredu beth ddywedid: "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a'i hedwyn?" John Jones yn ceisio llareiddio'r ystyr. Ni fynnai Thomas Williams ddim: "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim—pwy a'i hedwyn." John Jones yn teimlo'n aflonydd: "A ydach'i, Thomas Williams, yn dweyd wrthon'i, ych bod chwi wedi mynd i'r oed yma, ac heb adwaen y'ch calon?" Thomas Williams yn myned dros yr adnod eto: "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim." Bu raid. ei adael. Rhywbeth yn nhôn ei lais yn arwyddo amcan yn y cwbl. John Jones y blaenor drwy funudiau a gwenau, a lliaws eraill, yn ymddangos yn deall y dirgelwch. Rhoes y Parch. Ezra Jones ei bregeth gyntaf yn y tloty, a mynnodd Thomas Williams ganddo gymeryd hanner coron yn ddegwm, a ddodasid heibio ganddo ar gyfer ryw amcan crefyddol a ddeuai i'w sylw.] Capten Owen Owens yr Unicorn a ddangosodd y gall morwyr fyw yn grefyddol. Cyson yn y ddyledswydd deuluaidd nos a bore pa le bynnag y byddai'r llong, a phwy bynnag y dwylo. Nid cysurus fyddai'r annuwiol yn ei gwmni. [Ae i Dublin yn fynych, a byddai'n adrodd yn fynych y pethau neilltuol a glywodd mewn pregethau yn Dublin, ac yn y seiat yn Dublin. Cynesach oedd aelwyd Dublin nid hwyrach am fod cymaint o forwyr yno'r pryd hwnnw. Ni fethai goffa ar weddi helynt y morwyr yn y tywydd mawr, pan fyddai eu holl ddoethineb yn pallu, gan bwysleisio'n drwm ar yr holl.] Capten John Evans St. Helen elai ymhellach oddicartref nag Owen Owens, ond a adawai'r argraff oreu ym mhob man. Pan adref ni chymerai lawer am golli un moddion. Ei hoff bennill, —'Rwyn edrych dros y bryniau pell Am danat Iesu mawr. Capten David Roberts yr Eagle oedd yn gyson ym mhob moddion ac yn hael ei roddion. Nid yn fuan yr anghofir ei weddïau taer a'i ysbryd drylliedig. Ceid ganddo brofiadau melys. Hen gymeriad anwyl oedd William Owen y llwythwr. Un o'r rhai ddaeth o Foriah i gychwyn yr achos yma, ac un o heddychol ffyddloniaid Israel. Hynodid ei weddiau cyhoeddus â rhyw