Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Damhegol oedd ei shots, a byddai ei law ar y trigger yn handi bob amser. Fel expert specialist yr oedd yn medru clwyfo er cael y drwg allan, ac ni byddai un amser yn camgymeryd yr aderyn. Richard Morgan y teiliwr oedd yn em nefol, yn loew lân yn llwch y llawr; ar hyd ei oes mewn tlodi, ond yn annwyl gan bawb. Byddai ei areithiau dirwestol yn ddawnus a thanbaid, ac yr oedd yn wir ogoneddus rai gweithiau ar ei liniau." Dyna syniad Mr. John Jones am dano. Bychan ac eiddil o gorff oedd Richard Morgan, gyda golwg ddiniwed arno, ond eto golwg gwr o deimlad coeth, gyda'i lygaid llwydion, lled fawrion, goleu, heb fod yn dreiddgar. Cerddai yn ysgafn gyda mymryn o ysbonc, ac yr oedd yr un peth yn ei lafar "Yr ydan—ni fel plantos yn bwhamon—," canys fe wnelai ambell gamgymeriad go ddigrifol gyda gair. Cof gan Mr. W. O. Williams am dano yn areithio ar ddirwest. "Dyn," ebe fe,—"dyn," yr ail dro yn bwysleisiol iawn, " ydi mantel piece y greadigaeth." Tebyg i Richard Morgan glywed y gair masterpiece o'r pulpud yn y cysylltiad hwn, a'i drawsnewid yn anfwriadol i mantelpiece. Joseph Thomas oedd ei bregethwr mawr; ni ddarfu i Owen Thomas ei "lyncu" ef erioed, fe ddwedai.

Gwr tawel, difrif yr olwg arno, oedd Edward Hughes, tad Menaifardd. Ei weddi yn ddwys-feddylgar. Adroddid yn y seiat y dywedai ei gydweithwyr ar y fainc ddydd ei gynhebrwng y cleddid dyn duwiol yng Nghaernarvon y diwrnod hwnnw. Cyfunid yng ngweddi John Parry y calchiwr deimlad dwys a dagrau gyda meddylgarwch. Bu Robert Williams Siop y maes farw yn ddyn lled ieuanc. Yr oedd yn wr parod, rhwydd a chyflym ei ymadrodd, craff o feddwl, ac yn un y disgwylid pethau go wych oddiwrtho. Efe oedd tad yr Athro Hudson. Williams (Bangor). Yn brentis gydag ef yr oedd ei frawd (y Parch.) O. E. Williams, Ffestiniog wedi hynny. Yr oedd wyneb Isalun yn arwyddo dyn o feddwl tyner, coeth, llednais; ac yr oedd ei ddarnau barddonol yn dangos yr un nodweddion, ynghyd â chyffyrddiadau llawn meddwl wedi eu cyfleu yn gryno. Yr oedd hefyd yn athro rhagorol a llwyddiannus yn yr ysgol. Fe gyfeiriwyd at John Roberts y paentiwr ynglyn â dirwest a'i ddosbarth yn yr ysgol. Gwr cyflawn, selog. Fe fuasai wedi gwneud ei nôd fel blaenor. Beirniad go bigog yd— oedd ar weithrediadau y blaenoriaid. Er hynny, yn wr cyson: