cyson yn ei le, cyson yn ei fuchedd. Aelod o'r eglwys hon. oedd Andronicus. Gwr gweithgar. Y gwr gŵyl ydoedd mewn gweddi gyhoeddus. Rhoes esampl dlos o oddef cystudd maith yn amyneddgar. Gweler cyfeiriad ato yn yr Arweiniol gan Anthropos.
Y mae gan Mr. David Jones nodiadau ar rai o'r chwiorydd. hefyd. Ellen Jones Lôn fudr, y bu ei chartref yn Lleyn yn llety i bregethwyr, ac y cafodd hithau drwy hynny fanteision arbennig. Profodd bethau mawrion yn yr hen ddiwygiadau. Yn ei blynyddoedd olaf fe ddarllenai lawer ar y Beibl, a gweddïai lawer gwaith yn y dydd. Yr oedd hi a'i theulu o'i blaen wedi rhoi llawer i weision yr Arglwydd, a chredai yn ei blynyddoedd olaf mai cyflawni ei Air tuag ati yr oedd yr Arglwydd wrth gyflawni ei hanghenion. Ei chyngor yn wastad fyddai, Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. Catrin Edwards, priod Thomas Edwards y barbwr, oedd ffyddlon ym mhob moddion, ac yn amser y diwygiad yn un o'r rhai parotaf i roi amlygiad i'w theimlad mewn gorfoledd. Yn danllyd ei theimlad dros y Gwaredwr. Yn athrawes ffyddlon a diwyd bron i'r diwedd. [Arferai hi yn amlach na'i gwr werthu'r papur newydd ar yr heol. Teimlo braidd, os dywedid gair yn erbyn y papur newydd yn y seiat. Y Parch. Evan Roberts oedd y cyntaf i bleidio'r papur newydd yn y seiat: dalen o lyfr Rhagluniaeth" y galwai ef. Hyn yn plesio Catrin Edwards. Selog, fel ei gwr, dros ddirwest. Adroddai ddywediad William Roberts Amlwch, fod "dirwest yn un â'r Efengyl." "Mi dwedodd o," ebe hi.] Priod y Capten Evan Roberts oedd un o'r chwiorydd haelaf tuag at yr achos ym mhob cylch. Bu ei gofal yn fawr am Gymdeithas Dorcas, ac yr oedd yn elusengar i'r tlawd. Cyfranodd fwy na neb i roi tretiau i'r plant. Wrth ei bodd yn lletya pregethwyr. Yr achos yn Engedi yn achos iddi hi ei hun. Jinny Thomas a fu'n aelod o hen gapel Penrallt cyn adeiladu Moriah. Yn ffyddlon ddidor yn y moddion. Yn llawer uwch na chyffredin o ran deall a gwybodaeth. Tynnai sylw pob pregethwr wrth ei dull yn gwrando. Torrodd allan mewn gorfoledd. lawer gwaith. Bu'n athrawes fedrus am fiynyddoedd ar ddosbarth o chwiorydd, ac erys ei hol o hyd [1896] ar liaws o ddisgyblion. [Adroddai ddarnau helaeth iawn o bregeth i John Jones Talsarn oddeutu deng mlynedd ar ol ei farw, gyda phawb