Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gwrando yn awchus iawn. Cyn gorffen ohoni rhoes John. Jones y gweinidog ben ar yr adroddiad, gan ei bod bellach yn ymyl amser terfynu, a dywedai, "'Dydwi'n ameu dim nad allai Jinny Thomas fynd ymlaen am ugain munud arall." A dealler nad gor-helaethu oedd yma, ond adroddiad oedd yn amlwg yn ardderchog wrth y dull y derbynid ef gan bawb, gyda phrofiad yn gymysg mae'n ddiau. Yr oedd golwg dynes feddylgar arni, a thynnai sylw nid wrth ei dull o wrando yn unig ond wrth ei hymddangosiad hefyd. Y hi oedd yr hynotaf am adrodd profiad yn Engedi, ebe Mrs. Jane Owen—"profiad byw yn bachu ynochi."] (Mrs.) Jones y Friendship oedd un o gymeriadau hawddgaraf Engedi. Yn ferch i un o wragedd duwiol Ynys Fon. Priod y Capten William Jones. Symudodd o Foriah yng nghychwyniad yr achos yma. Ni bu neb ffyddlonach gyda phob rhan o waith yr Arglwydd; yr ydoedd ei bywyd yn llawn o weithgarwch crefyddol. Ar ei therfyn fe ddywedai,—"Wedi trigain mlynedd gallaf godi fy Ebenezer i fyny a dywedyd, Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd fi." Bu farw yn 1887 yn 77 oed. Mewn ymddiddan, edrydd Mr. David Jones am Marged Williams, mam Mr. John Jones (Druid), a goffhawyd ynglyn â diwygiad 1859. Parhaodd hi a Chatrin Edwards i orfoleddu yn achlysurol am flynyddoedd ar ol y diwygiad, un yn y naill ben i'r capel a'r llall yn y pen arall, a rhwng y ddwy byddai yno weithiau le twym. Mewn seiat ar nos Sadwrn, fel yr elai Morris Jones yr Hen Broffwyd o amgylch, gwelai briod Hughes y plumber gyda fêl dros ei hwyneb. Cydiodd yr Hen Broffwyd yng nghwrr y fêl, gan ei chodi dros y bonet, ac ebe fe, "Be' sy gen til i ddweyd heno?" Aeth hithau ymlaen i adrodd ei phrofiad heb gymeryd arni ddim. Grace Jones Heol y llyn fedrai adrodd pregethau yn ardderchog. Cynhaliai ddosbarth paratoi merched ieuainc ar gyfer eu derbyn,—dosbarth rhagorol. Medrai gadw meistrolaeth lwyr ar ei dosbarth. Hi ddarllenai yn helaeth. [Mewn cyfarfod llenyddol ym Moriah ddwy flynedd a deugain yn ol, mawr ganmolai y Dr. Hughes un o'r traethodau, gyda merched ieuainc dan 25 feallai yn gystadleuwyr. A phen ar y cwbl a ddywedai ydoedd,—"A gwyn ei fyd y gwr ieuanc a'i caffo hi!" Ac yn y man, wele Grace Jones yn dod ymlaen am y wobr, yn ddynes dal dros ben, gydag ysgogiad penderfynol, meistrolgar. Nid bychan oedd mwynhad