Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

John Jones y blaenor, cystal ag eraill, wrth ei gweled yn dod ymlaen.]

Rhoi'r crynodeb yma o ysgrif yn y Drysorfa (1853, t. 347), ar Elizabeth Davies, merch David Davies yr exciseman, a chwaer Eifioneilydd, a fu farw Medi 22, 1852, yn 20 oed, a phan drigiannai ei thad yn y dref. Yr oedd hi yn lân o bryd a theg yr olwg, a hynod siriol ei thymer, a ffraeth ei hymadrodd er yn blentyn, ac o synnwyr cryf. Medrus â'r edef a'r nodwydd, ac mewn gweu pob math ar rwydwaith. Swynodd y Beibl ei hysbryd yn fore. Trysorodd yn ei chof ac adroddodd allan yn y teulu neu ar gyhoedd y rhan helaethaf ohono. Gallai droi at unrhyw adnod a fynnai o fewn y Beibl. Dysgodd allan yr Hyfforddwr, y Gyffes Ffydd, Oriau Olaf Iesu Grist, Grawnsypiau Canaan. Yr oedd yn gyfarwydd yn y Drysorfa, y Traethodydd, y Geiniogwerth, y Cronicl, y Gymraes, o gychwyn pob un. Dioddefodd flynyddoedd o gystudd caled yn amyneddgar. Rhoes dystiolaeth liaws o weithiau am ddiogelwch ei chyflwr. Tua'r terfyn fe ddywedai y teimlai hi undeb agos â'r bedd y diwrnod hwnnw am fod yr Iesu anwyl wedi bod yno o'i blaen.

Yr oedd Marged Williams, mam Mr. W. O. Williams, yn ddynes o gynneddf gref. Darllenai Athrawiaeth yr Iawn Lewis Edwards, Gurnal, Pregethau Charles Caerfyrddin, Lampau'r Deml. Meddai ar ddisgyblaeth lem yn y tŷ gyda chadwraeth y Saboth, a dysgu allan o'r ysgrythyr. Safai yn eofn ar dro yn yr eglwys dros ddisgyblaeth. Pan oedd rhywrai go gyhoeddus wedi troseddu mewn pwnc a gyfrifid yn bwysig y pryd hwnnw, fe lefarodd dros burdeb buchedd am chwarter awr o amser gyda threfn a rhwyddineb a grym. Dynes o gynneddf gref oedd (Mrs.) Rees, mam Griffith R. Rees, yr Hen Fanc, a Mr. John Rees. Blasusfwyd iddi hi oedd llyfr o nodwedd William Roberts Clynnog ar Fedydd. Gwrandawai ar bregeth feddylgar gyda chraffter sylw. Traethai ei phrofiad gyda hyder tawel, heb deimlad amlwg, ond yn drefnus a meddylgar ac addysgiadol i eraill. Edrydd Mr. Hugh Hughes am Jinny Thomas yn coffa sylw John Owen Ty'n llwyn. "Chwychwi yw y rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau "-beth wnaethon nhw? Dim ond aros! Adroddodd hyn droiau o bryd i bryd. Sonia Mr. Hughes am G. Tecwyn Parry yn holi'r ysgol, ac yn gofyn, A ddarfu i'r