Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iesu roi poen i'w rieni ryw dro? Swniai y cwestiwn yn ddieithr i'r plant, ac nid oedd neb yn ateb. Ar hynny, torrodd. Catherine Jones allan, priod John Jones y blaenor,—" Do, ond poen duwiol oedd o." Dywedodd hynny gyda theimlad a gyffroes feddwl Tecwyn Parry, a chafodd gryn hwyl gyda'r syniad.

Un nodwedd ar Engedi oedd lluosowgrwydd o ferched profiadol am gyfnod go faith. Nodwedd arall oedd sel ddirwestol gyffredinol am dymor helaeth, ac i fesur hyd derfyn cyfnod yr hanes hwn. Nodwedd arall oedd lluosowgrwydd y pregethwyr a fu mewn cysylltiad â'r eglwys, a chryn nifer ohonynt yn ddynion o ddoniau anarferol. Peth hynod yn ei hanes oedd ei chynnydd, wrth ystyried ddarfod i'r eglwys y tarddodd ohoni barhau yn ei lluosowgrwydd.

Rhif yr eglwys yn 1900, 534; y gynulleidfa, 733; yr ysgol, 626; cyfartaledd presenoldeb yr ysgol, 363; eisteddleoedd a osodir, 596; ardreth yr eisteddleoedd, £98 10s. 2g.; casgl y weinidogaeth, £240 16s. 11g.; casgl at y ddyled yn yr ysgol a'r cyfarfod diolchgarwch, £131 0s. 10c.; y ddyled, £614 0s. 8g.

"Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti."