Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SILOH.[1]

FE ddarllenwyd crynhodeb o hanes yr achos yn Siloh gan Henry Edwards yn y Cyfarfod Misol cyntaf a gynhaliwyd yno, sef yn Rhagfyr 18 a 19, 1882. Ym mharatoad y crynhodeb. hwnnw fe gynorthwywyd Henry Edwards gan George Williams, yn ol fel y dywedai'r olaf. Braslinelliad o'r crynhodeb hwnnw a ymddanghosodd yn yr Amseroedd. Dywedir yn hwnnw i nifer o frodyr o Foriah yn 1840 gymeryd llofft yn lôn Cadnant er cynnal ysgol ar bnawn Sul a chyfarfod gweddi am hanner awr wedi pedwar. Yr oedd yr ardal yn un hynod isel y pryd hwnnw, ac am flynyddoedd wedi hynny. Er fod pobl foesol eu buchedd yn trigiannu yno, a lliaws o grefyddwyr, eto yr oedd y doreth o'r preswylwyr yn anystyriol o rwymedigaethau crefydd a moes. Yr oedd yno lawer o feddwi, llawer o dlodi anesgusodol, llawer o chwareuon cyhoeddus ar y Suliau. Gwaith araf-deg, araf-deg iawn, a fu dofi'r bwystfil an- ystyriaeth a phenrhyddid yn yr ardal i'r mesur y gwelir heddyw. Bu'r Wesleyaid yma am ryw ysbaid yn cynnyg ar hynny, ond yr oeddynt hwy wedi cefnu cyn cychwyn o'r Methodistiaid yma yr ail waith hon; canys yn yr un ardal y cychwynasant hwythau gyntaf, mewn llofft y tro hwnnw hefyd, ond ar allt arall. John Richardson, mab Evan Richardson, oedd un o'r rhai a ddaeth yma o Foriah, a Henry Jonathan, a Robert Roberts, wedi hynny o ardal Dinorwig, yn ol adroddiad Henry Edwards. Yn ei ysgrif ar Foriah, y mae W. P. Williams yn chwanegu rhai sylwadau ar Siloh. Y rhai a enwir ganddo ef fel wedi llafurio yn Nhanrallt o'r cychwyn cyntaf ydyw John Wynne, Robert Roberts Treflan Llanbeblig, ac Owen Williams. Fe gafodd Mr. Wynne Parry ymddiddan âg un oedd yn cofio cychwyn yr ysgol, ac yn ol yr adroddiad hwnnw, John Wynne oedd pen y fintai a ddaeth o Foriah, a dyma'r lleill a enwid,—Enoch Davies teiliwr. Penrallt ogleddol; William

  1. Ysgrifau'r Mri. John Henry Lloyd a John Wynne Parry. Hanes y Methodistiaid yng Nghaernarvon, W. Williams, Drysorja, 1904, t. 216. Amlinelliad o hanes yr achos yn Siloh, Amseroedd, 1882, Rhagfyr 30, t. 2. Atgofion y Parch. T. Morris Jones (Gronant). Nodiadau Mr. George Williams.